Cyhoeddwyd: 23 Ebrill 2024

Croesawodd tîm ambiwlans awyr Caernarfon ymwelydd arbennig yn ddiweddar, pan ddaeth Uchel-Siryf Gwynedd, Janet Phillips, a oedd ar fin camu i lawr o'i dyletswyddau, i'w gweld.

Yn ystod ei deuddeg mis yn y swydd, mae wedi cwrdd â'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau golau glas a'r sector elusennol, fel rhan o'i rôl.

Dywedodd Janet: “Mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn ac rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl anhygoel yn ein sir, gan ddysgu am y gwahanol waith maent yn ei wneud.”

Mae Ambiwlans Awyr yn wasanaeth a arweinir gan feddygon, yn mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ar leoliad, pryd bynnag a lle bynnag y bydd angen cymorth arno.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae'r gwasanaeth yn teithio ar hyd a lled Cymru ac roedd Janet, sydd hefyd yn rhan o'r gymuned ffermio, am ddangos ei gwerthfawrogiad o'r hyn maent yn ei wneud a'i pharch atynt, gan dreulio amser gyda'r tîm.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn hyfryd cwrdd â'r bobl sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn, roedd yn arbennig iawn.

“Gwnaethom gwrdd â'r peilot, ymgynghorydd Damweiniau ac Achosion Brys, ac un o'r Ymarferwyr Gofal Critigol. Gwnaethom hefyd gwrdd ag Alwyn Jones, sy'n un o swyddogion codi arian yr ambiwlans awyr a dau ymddiriedolwr. Roedd yn agoriad llygad.

“Roedd yn hyfryd clywed am eu profiadau, am yr hyn y maent yn ei wneud, am y digwyddiadau maent yn dod ar eu traws. Pan fyddwch yn clywed y straeon, mae'n gwneud i chi deimlo am eu llesiant nhw hefyd, maent yn gofalu amdanom, ond rydych yn teimlo drostyn nhw hefyd.

“Gwyddoch eu bod bob amser dan bwysau, yn mynd i lefydd na allai'r rhan fwyaf ohonom ddychmygu, heb wybod beth maent yn mynd i'w wynebu pan fyddant yn cyrraedd.”

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Janet: “Rwy'n ymwybodol o'r arian sydd angen ei godi i alluogi'r elusen i gyflawni ei nod bob blwyddyn er mwyn cadw'r gwasanaeth i fynd.

“Nid yw'n sicr y bydd yr elusen yn cael arian gan y llywodraeth neu unrhyw beth tebyg.

“Heb haelioni'r cyhoedd ni fyddem wedi cael y gwasanaeth hanfodol a ddarperir gan yr elusen a'i phartneriaid.”

Ychwanegodd: “Mae hefyd yn bwysig cydnabod a diolch i'r rhai sydd wedi mynd ati i godi arian drwy'r flwyddyn – mae'n hynod bwysig i sicrhau parhad y gwasanaeth.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad i'r cyn Uchel-Siryf a diolch iddi am ei gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf.

“Roedd yn anrhydedd i'n tîm gael ymweliad ganddi yn ystod ei hwythnosau olaf yn ei swydd ac rydym yn edrych ymlaen at ymweliadau yn y dyfodol wrth iddi barhau yn ei rôl fel Dirprwy Raglaw yng Ngwynedd. Caiff Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ei arwain gan ymgynghorwyr ac rydym bob amser yn arloesi i sicrhau bod gan ein timau y cyfarpar gorau i'w helpu i gyflawni eu swyddi yn effeithiol.

“Mae angen i ni godi £1.2 miliwn bob blwyddyn fel y gall ein hofrenyddion a'n cerbydau ymateb cyflym barhau i gynorthwyo eraill sy'n wynebu sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd neu fraich neu goes.”