Coffi a ChacenBarod am baned! Dathlwch ein pen-blwydd yn 23 oed drwy gofrestru ar gyfer ein digwyddiad cyffrous, newydd sbon, Coffi a Chacen. Y peth gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn agored i bawb, ac y gallwch gynnal eich parti eich hun ar adeg sy'n gyfleus i chi. Dewch at eich gilydd gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr a chynnal eich Parti Coffi a Chacen eich hun ym mis Mawrth. Cartref Beth yw Coffi a Chacen? Coffi a Chacen Cwestiynau Cyffredin am Goffi a Chacen Y gwahaniaeth y gallwch ei wneud Ryseitiau Cynnal eich digwyddiad Sut i Gynnal Parti Coffi a Chacen Cynnal digwyddiad yn eich gweithle Cofrestru Y gwahaniaeth y gallwch ei wneud Nid oes unrhyw beth gwell na bwyta cacen a chodi arian! Mae gan eich digwyddiad Coffi a Chacen y pŵer i achub bywydau'r rhai sy'n cael anaf sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff ledled Cymru. P'un a ydych yn ymgynnull gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, yn cynnal digwyddiad rhithwir, neu'n dod at eich gilydd yn y swyddfa, byddwch yn codi arian hanfodol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gan ein galluogi i ddarparu gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau pobl ledled Cymru, 24/7. Ni yw'r unig Elusen ambiwlans awyr yng Nghymru, ac sy'n ymrwymedig i'r Cymry, ac rydym yn dibynnu'n llwyr ar eich rhoddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Manage Cookie Preferences