Coffi a Chacen

Barod am baned!

 

Dathlwch ein pen-blwydd yn 23 oed drwy gofrestru ar gyfer ein digwyddiad cyffrous, newydd sbon, Coffi a Chacen.

Y peth gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn agored i bawb, ac y gallwch gynnal eich parti eich hun ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Dewch at eich gilydd gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr a chynnal eich Parti Coffi a Chacen eich hun ym mis Mawrth.

Lle bynnag rydych yn gweithio, gallwch gynnal eich Parti Coffi a Chacen eich hun â'ch cydweithwyr - wyneb yn wyneb neu'n rhithwir.

Mae'n ffordd wych o godi morâl, hyrwyddo cydweithredu a chodi arian hanfodol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Cofrestrwch eich gweithle heddiw i gael hwyl wrth wneud gwahaniaeth sy'n achub bywydau.

Y manteision

  • Codi morâl
  • Teimlo'n dda
  • Gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth
  • Ymgysylltu â chydweithwyr newydd
  • Adeiladu tîm