Coffi a Chacen

Barod am baned!

 

Dathlwch ein pen-blwydd yn 23 oed drwy gofrestru ar gyfer ein digwyddiad cyffrous, newydd sbon, Coffi a Chacen.

Y peth gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn agored i bawb, ac y gallwch gynnal eich parti eich hun ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Dewch at eich gilydd gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr a chynnal eich Parti Coffi a Chacen eich hun ym mis Mawrth.

Mae gan eich digwyddiad Coffi a Chacen y gallu i godi arian hanfodol a fydd yn ein galluogi i helpu pobl y mae angen gofal critigol arnynt, ledled Cymru. P'un a ydych yn ymgynnull gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, yn cynnal digwyddiad rhithwir, neu'n dod at eich gilydd yn y swyddfa, byddwch yn codi arian hanfodol a fydd yn ein galluogi i barhau i wasanaethu Cymru ac achub bywydau. 

 


Cofrestrwch drwy ddefnyddio'r ffurflen gofrestru a chadwch lygad am eich e-bost croeso sy'n cynnwys eich pecyn codi arian digidol.

 


Dewiswch ddyddiad ar gyfer eich digwyddiad a chrëwch dudalen codi arian drwy JustGiving. Gallwch hefyd gysylltu â ni i gael ffurflen noddi os byddai'n well gennych wneud hynny.

 


Gwahoddwch eich teulu, eich ffrindiau a'ch cydweithwyr a rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i ni. Os ydych chi ar Facebook gallwch ymuno â'n grŵp Coffi a Chacen, neu gallwch anfon e-bost atom os byddai'n well gennych wneud hynny.

 

Ffyrdd o fod yn greadigol a gwneud gwahaniaeth

 

1 - I'r rhai na allant aros, gadewch iddynt fynd â chacen gyda nhw. Trefnwch stondin i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr alw heibio a phrynu cacennau blasus.

2 - Meddyliwch am gemau - os oes gennych thema ar gyfer eich parti, gwnewch y gemau'n seiliedig ar y thema. Er enghraifft, dyfalu sawl cwci sydd yn y jar cwis, neu fingo coffi a chacen.

3 - Trefnwch gwis. Cynhaliwch gwis i'ch gwesteion gymryd rhan ynddo.

4 - Anogwch eich gilydd - cynhaliwch gystadleuaeth drwy werthu'r cacennau mwyaf poblogaidd mewn arwerthiant. Cofiwch, gellir gwneud hyn yn rhithwir hefyd.

5 - Byddwch yn gymdeithasol a chofiwch rannu eich tudalen JustGiving a'ch cod QR er mwyn i bobl allu rhoi arian ar-lein. Efallai y bydd y rhai na allant fod yn bresennol am gael eu cynnwys o hyd.