Coffi a Chacen Mae Coffi a Chacen yn ddigwyddiad newydd sbon a gynhelir ym mis Mawrth 2024 i ddathlu 23 mlynedd ers i ni gael ein sefydlu. Gofynnwn i bobl ledled Cymru a thu hwnt ddod at ei gilydd a chynnal parti Coffi a Chacen i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Y peth gwych am y digwyddiad yw y gallwch ei drefnu fel y mynnoch. Os ydych am gael thema, gwych, os ydych am ei gynnal gyda'r nos neu ar eich dreif, yna mae hynny'n wych - eich digwyddiad chi yw hwn a chi sydd â'r dewis. P'un a ydych yn ymgynnull gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, yn cynnal digwyddiad rhithwir, neu'n dod at eich gilydd yn y swyddfa, byddwch yn codi arian hanfodol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gan ein galluogi i ddarparu gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau pobl ledled Cymru, 24/7. Pu'n a ydych yn bobydd o fri neu ei bod yn well gennych brynu eich cacennau o siop, bydd yr arian a wnewch drwy werthu eich cacennau blasus yn gwneud gwahaniaeth. Pryd mae Coffi a Chacen? Gallwch gynnal eich parti unrhyw adeg ym mis Mawrth, pryd bynnag sy'n gyfleus i chi. Y dyddiad swyddogol cyntaf yw dydd Gwener 1 Mawrth, diwrnod arbennig i'r Elusen am ei bod yn Ddydd Gŵyl Dewi ond hefyd yn nodi 23 mlynedd ers i ni gael ein sefydlu. Sut y gallwch gymryd rhan? P'un a ydych yn bwriadu codi £50 neu £250, mae pob rhodd yn hanfodol ac nid oes unrhyw ddigwyddiad yn rhy fawr na'n rhy fach. I gofrestru, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau'r Ffurflen Gofrestru Coffi a Chacen a byddwn yn anfon eich pecyn codi arian â chyngor i'ch helpu i ddechrau arni. Cofrestru Manage Cookie Preferences