Cyhoeddwyd: 07 Mai 2024

Mae menyw o Sir Benfro wedi codi dros £13,000 ar gyfer achosion da ar ôl herio ei hun i gwblhau Marathon Llundain.

Rhoddodd Terrie Savage ei hesgidiau rhedeg am ei thraed i redeg y Marathon 26.2 o filltiroedd yn Llundain i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Dydd Cemotherapi Llwynhelyg. Cwblhaodd Terrie y Marathon mewn amser rhyfeddol o 3 awr a 50 munud.

Penderfynodd Terrie, a oedd eisoes wedi herio ei hun i gwblhau ambell hanner marathon yn y gorffennol, i ddwysáu ei hymarfer a gosod yr her i gwblhau dwbl y pellter. Yn ôl pob golwg, mae hi wedi meithrin yr ysfa i redeg gan ei bod eisoes wedi cofrestru ar gyfer lle yn y ras y flwyddyn nesaf.

Wrth fyfyrio ar ei chyflawniad anferth, dywedodd Terrie, sy'n 27 oed: "Dechreuais redeg fis Hydref diwethaf ar ôl cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd, a 'dw i ddim wedi edrych nôl. Roeddwn yn rhedeg 30-40 o filltiroedd pob wythnos ym mis Ionawr a Chwefror, ond gostyngais y milltiroedd ym mis Mawrth. Roedd yn anodd iawn codi am 6am cyn gwaith er mwyn cwblhau'r holl ymarfer, ond fyddwn i ddim eisiau i ddim i fod yn wahanol.

"Wnes i wirioneddol garu rhedeg Marathon Llundain, roedd gwên ar fy wyneb wrth redeg pob milltir - roeddwn i wrth fy modd, ac rwyf wir yn golygu pob gair! Gwnaeth siarad â rhedwyr eraill fy ysbrydoli i barhau i redeg a chofrestru i redeg mwy o farathonau!"

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Roedd gan Terrie, a drefnodd daith tractors hefyd i'w helpu i godi arian, reswm personol dros gefnogi'r elusen Cymru gyfan. Bydd yr arian a godwyd yn cael ei rannu'n gyfartal.

Ychwanegodd: "Cafodd fy nhad-cu drawiad yn 2021, a hedfanodd Ambiwlans Awyr Cymru draw i Aber Bach. Bu'r tîm yn gweithio'n galed arno am sawl awr, ond bu farw yn anffodus. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cymorth a'r gofal a roddwyd i fy nhad-cu, ac i'n teulu."

"Mae gen i £6,500 i'w roi i'r Elusen ar hyn o bryd, ac alla i ddim credu'r cyfanswm. Mae wir yn dangos pa mor wirioneddol bwysig yw'r achos hwn. Rwyf wedi derbyn negeseuon gan sawl person yn siarad am eu profiad gydag Ambiwlans Awyr Cymru, ac am eu straeon ysbrydoledig am yr elusen ryfeddol hon. Mae'r gofal sy'n newid bywydau y mae'r unigolion hyn yn ei roi yn ddyddiol yn anhygoel.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: "Waw, dyna i chi gamp. Llongyfarchiadau enfawr i Terrie, nid yn unig am gwblhau her gorfforol enfawr, ond hefyd am godi swm mor anhygoel o arian!

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Terrie am ddewis cefnogi ein helusen. Mae'n amlwg fod ein gwasanaeth yn agos at ei chalon, ac mae bob amser yn hyfryd clywed am bobl fel Terrie, sy'n adnabod rhywun a oedd angen ein gwasanaeth sy'n achub bywydau, ac sydd wedyn yn cael ei ysbrydoli i godi arian. Llongyfarchiadau i Terrie a diolch am ein cefnogi ni. Bydd dy ymdrechion anhygoel yn helpu pobl eraill y bydd angen ein gwasanaeth arnynt yn y dyfodol."

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Terrie o hyd drwy roi arian drwy ei thudalen JustGiving Ambiwlans Awyr Cymru www.justgiving.com/page/terrie-savage-1688759900496