Cyhoeddwyd: 07 Mai 2024

Mae un o weithiwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn barod i gau careiau ei esgidiau a cherdded i fyny copa uchaf Cymru - yr Wyddfa - er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd Colin Read o Abertawe, sy'n 33 oed, ei ysbrydoli i godi arian i'r Elusen ar ôl gweld gwaith Ambiwlans Awyr Cymru yn uniongyrchol.

Dywedodd Colin, sy'n gweithio yng Nghanolfan Galwadau Brys 999 Caerfyrddin fel Anfonwr Meddygol Brys, gyda'r nod o ddod yn barafeddyg: "Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y sgiliau anhygoel sydd ar gael i bobl Cymru oherwydd tîm Ambiwlans Awyr Cymru. Hoffwn ymuno â'r tîm ryw ddydd fel Ymarferydd Gofal Critigol.

"Pan ymunais â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, cefais fy syfrdanu ar ôl cael gwybod bod elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei hariannu'n llwyr gan roddion! Mae angen £11.2 miliwn pob blwyddyn arnynt i gadw'r gwasanaeth critigol hwn yn weithredol, sy'n destament i haelioni'r bobl, ond hefyd yn ddigon brawychus i feddwl oni bai am y caredigrwydd hwn, ni fyddai'r gwasanaeth yn bodoli. Dewisais godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru am fy mod i eisiau chwarae fy rhan yn eu cadw yn yr awyr ac ar y ffyrdd."

Mae Colin yn edrych ymlaen at yr her. Mae wedi gosod targed codi arian iddo'i hun o £1,000, ac wedi codi cyfanswm o £850 hyd yma. Pan fydd Colin wedi cyrraedd ei darged, bydd yn penderfynu ar ddyddiad i ddringo'r mynydd.

Wrth fyfyrio ar y daith gerdded, aeth yn ei flaen i ddweud: "Mi fydd yn heriol, ond mae fy ffrindiau a fy nheulu yn fy nghefnogi, ac mae rhai ohonynt wedi penderfynu cymryd rhan ar y daith gyda fi. Dwi erioed wedi bod i fyny'r Wyddfa; Rwyf wrth fy modd gydag antur, ac rwy'n edrych ymlaen at gael ei weld fy hun."

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Pob lwc i Colin pan fydd yn mynd ati i ddringo'r Wyddfa. Mae'n hyfryd clywed y byddai'n hoff o ddod yn ymarferydd gofal critigol un dydd ar ôl gweld gwaith ein tîm drwy ei swydd bresennol.

"Diolch am ddewis codi arian i'n helusen, pobl fel Colin sy'n ein helpu i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Ar ran pawb yn Ambiwlans Awyr Cymru, a phawb ledled Cymru a fydd yn cael budd o'r ymgyrch codi arian hon, hoffwn ddweud diolch a phob lwc."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Jonathan Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau (Adnoddau a Chydgysylltu Gwasanaethau Meddygol Brys) Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'n wych gweld Colin yn wynebu her sydd mor werth chweil. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth anhygoel sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl Cymru.

"Gwn ei fod yn rhywbeth sy'n agos iawn at galon Colin, ac rwy'n siŵr y bydd yn cyflawni ei uchelgais o ddod yn barafeddyg yn y dyfodol."

Os hoffech ddangos eich cefnogaeth i Colin, gallwch wneud hynny drwy roi arian drwy ei dudalen Just Giving ‘Climbing Snowdon for Wales Air Ambulance’ www.justgiving.com/page/colin-read-1713218347321