Cymorth CleifionGall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu. Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella. Hafan Cymorth Cleifion Cymorth Cleifion Nyrsys Cyswllt Cleifion Sefydliadau a all helpu Cwestiynau Cyffredin Sut y Gallwch Ein Helpu Ni Relative Support Relative Support Sefydliadau a all helpu Cymryd Rhan Adborth Cleifion Cymorth Profedigaeth Siarad Nyrs Cyswllt Cleifion Newydd Manylion Cyswllt Siarad Nyrs Cyswllt Cleifion Newydd Rhannwch Eich Stori Sut y Gallwch Ein Helpu Ni Ar ôl gwella, efallai y bydd rhai pobl am roi rhywbeth yn ôl ac mae sawl ffordd o wneud hyn: Mae rhannu eich stori o gymorth mawr i godi ymwybyddiaeth o'n gwasanaeth a gall ysbrydoli eraill i'n cefnogi ni. Cofrestrwch ar gyfer ein Loteri Achub Bywydau Dewch yn wirfoddolwr, ni fyddwn yn bodoli heb ein gwirfoddolwyr. Trefnwch neu cymerwch ran mewn digwyddiad codi arian Efallai eich bod yn awyddus i godi arian i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr; mae rhodd untro neu rodd rheolaidd yn galluogi i'n gwasanaeth barhau. Gadael rhodd yn eich Ewyllys. Yn dilyn digwyddiad sy'n newid bywyd, mae rhai pobl yn dymuno gwneud newidiadau i'w hewyllys a gadael rhodd i Elusen. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost i [email protected]. Mae popeth yn helpu, o roddion personol bach i ddigwyddiadau codi arian mawr. Os hoffech gymryd rhan yn unrhyw un o'r rhain, anfonwch e-bost i:[email protected] Manage Cookie Preferences