Cymorth CleifionGall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu. Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella. Hafan Cymorth Cleifion Cymorth Cleifion Nyrsys Cyswllt Cleifion Sefydliadau a all helpu Cwestiynau Cyffredin Sut y Gallwch Ein Helpu Ni Relative Support Relative Support Sefydliadau a all helpu Cymryd Rhan Adborth Cleifion Cymorth Profedigaeth Siarad Nyrs Cyswllt Cleifion Newydd Manylion Cyswllt Siarad Nyrs Cyswllt Cleifion Newydd Rhannwch Eich Stori Cymorth Cleifion Os caiff ein criw eu galw allan atoch, mae'n debygol eich bod wedi profi digwyddiad sydyn a thrawmatig. Efallai nad ydych yn cofio'r digwyddiad o gwbl neu fod gennych atgofion annymunol. Mae gwella yn daith hir ac yn broses anodd, ac mae profiad pawb yn wahanol. Mae ein Nyrsys Cyswllt Cleifion ar gael i ateb cwestiynau a all fod gennych am y driniaeth a gawsoch a llenwi unrhyw fylchau i'ch helpu i ddeall yr hyn a ddigwyddodd. Weithiau, gall y daith beri straen a dryswch, gan wneud i chi deimlo eich bod ar goll ac yn ansicr am yr hyn sydd o'ch blaen, rydym yma i'ch helpu wrth i chi wella. Mae'r broses wella yn wahanol i bawb ond, yn aml, gall gymryd mwy o amser na'r disgwyl, yn gorfforol ac yn seicolegol. Dyma rai o'r problemau cyffredin; Mae gennym gysylltiadau agos â phob ysbyty yng Nghymru yn ogystal â rhai yn Lloegr. Mae gennym fynediad i rwydwaith o wasanaethau cymorth, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yn ogystal â sefydliadau cymorth nad ydynt yn rhan o'r GIG y gallwn eich cyfeirio atynt. Mae gennym fynediad hefyd i amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth o gyflyrau ac agweddau gwahanol ar y broses wella. Rydym yma i'ch helpu chi. Manage Cookie Preferences