Cymorth Cleifion

Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.

Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.

Mae gennym fynediad i rwydwaith o wasanaethau cymorth, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yn ogystal â sefydliadau cymorth nad ydynt yn rhan o'r GIG y gallwn eich cyfeirio atynt. Gall y sefydliadau hyn hefyd eich helpu chi neu anwylyd a oedd angen ein gwasanaeth.

Limbless Association

Mae'r Limbless Association (LA) yn elusen genedlaethol ar gyfer pobl sydd wedi colli coes neu fraich, ac maent wedi bod yn eu cefnogi hwy a'u teuluoedd ledled y DU ers 1983. Gall y profiad o golli eich braich neu goes, neu'r ddau, fod yn unig iawn, a gall gael effaith andwyol ar iechyd meddwl person yn ogystal â llesiant corfforol. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth am ddim o safon uchel i unrhyw un cyn neu ar ôl iddynt golli ei braich neu goes, neu os ydynt yn byw â cholli braich neu goes.

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys Desg Gymorth LA, cyngor cyfreithiol, cymorth gan gymheiriaid i Wirfoddolwyr neu Ymwelwyr, digwyddiadau Cymorth a Chysylltu wyneb yn wyneb ac ar-lein, pecyn gwybodaeth LA, rhaglen Cenhadon Ifanc, podlediad AmpLAfy ac ein cylchgrawn StepForward. Mae'r gwasanaethau hyn i gyd ar gael am ddim: ffoniwch ein Rhadffôn 0800 644 0185, anfonwch e-bost i [email protected] neu ewch i Limbless Association

The Coroner’s Court Support Service

Mae'r Coroner's Court Support Service yn elusen annibynnol sydd â gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi i roi cymorth i deuluoedd sydd mewn galar a thystion ag eraill pan maent yn mynychu Cwest yn Llys y Crwner a hefyd drwy ein Llinell Gymorth Cenedlaethol. Rydym yn cynnig cymorth emosiynol a help ymarferol o ran proses y Cwest.

Gallwch gysylltu â ni fel a ganlyn:

Llinell Gymorth ar 0300 111 2141 ddydd Llun i ddydd Gwener 09.00 - 19.00 a dydd Sadwrn 09.00 - 14.00

[email protected]

Cliciwch yma  i gael taflen yr elusen.

At A Loss

At a Loss yw gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth profedigaeth y DU. Gallwch chwilio am gymorth profedigaeth sy'n briodol i'ch colled, gwybodaeth ymarferol, deunydd darllen defnyddiol, llinellau cymorth a chyngor ar www.ataloss.org– mae popeth yn yr un lle. Mae gwasanaeth cwnsela proffesiynol livechat ar gael am ddim ar ein gwefan – Griefchat – sydd ar gael 9-9, ddydd Llun i ddydd Gwener. Gellir cyfieithu'r wefan i dros 100 o ieithoedd.

Cliciwch yma i wylio fideo byr.

Cruse

Cruse Bereavement Supportyw prif elusen profedigaeth y DU ar gyfer pobl yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Rydym yn helpu pobl drwy un o gyfnodau anoddaf bywyd - gyda chymorth profedigaeth, gwybodaeth ac ymgyrchu. Rydym yma i sicrhau bod pawb sy'n galaru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. Gallwch gael mynediad i'n gwasanaethau drwy ein gwefan, llinell gymorth cenedlaethol (0808 808 1677), livechat, cyfarfod grŵp, zoom, dros y ffôn neu gymorth wyneb yn wyneb. Mae gennym hefyd dîm ymroddedig o 4,000 o wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, ac rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ac ymgynghori ar gyfer sefydliadau allanol a rheini a all ddod ar draws pobl sy'n galaru yn rhinwedd eu gwaith.https://www.cruse.org.uk/get-help

Cliciwch yma ar gyfer cymorth a gwybodaeth. Nid ydych ar eich pen eich hun.

 

Child Bereavement UK

Mae Child Bereavement UK yn helpu plant a phobl ifanc (hyd at 25 oed), rhieni, a theuluoedd, i ailadeiladu eu bywydau pan mae plentyn yn galaru neu pan mae plentyn yn marw. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, i sicrhau y gallant ddarparu'r gofal gorau posibl i deuluoedd sy'n galaru.

Am ragor o wybodaeth neu i gefnogi gwaith yr elusen, anfonwch e-bost at:

[email protected] 

Ewch i'n gwefan:www.childbereavementuk.org

Llinell Gymorth Genedlaethol: 0800 02 888 40

 

2wish – yn cefnogi rhieni sy'n galaru

Mae 2wish yn darparu cymorth ar unwaith a pharhaus i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan golli plentyn neu berson ifanc o dan 25 oed yn sydyn ac yn annisgwyl. Mae'r cymorth yn cynnwys blychau cofio, cymorth emosiynol ac ymarferol ar unwaith, cwnsela a therapi chwarae, cymorth grŵp a llety preswyl. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan www.2wish.org.uk neu cysylltwch â ni drwy ein ffonio ar 01443 853125 neu dros e-bost i [email protected]

 

Winston’s Wish

Mae Winston's Wish yn elusen genedlaethol ledled y DU sy'n darparu cymorth profedigaeth, arweiniad a gwybodaeth i blant a phobl ifanc (hyd at 25 oed) a'u teuluoedd ar ôl marwolaeth rhywun sy'n agos atynt. Rydym yn cynnig ystod o gymorth ymarferol drwy Linell Gymorth Rhadffôn, adnoddau ar-lein, cymorth unigol a grŵp, cyhoeddiadau a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Llinell gymorth: 08088 020 021

E-bostiwch: [email protected]

Gwefan: winstonswish.org