Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.
Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.
Os hoffech siarad â Nyrs Cyswllt Cleifion, llenwch y ffurflen isod, ffoniwch neu anfonwch e-bost drwy ddefnyddio’r manylion isod: Llinell Gleifion: 0300 300 0067 [email protected]
Bydd ein Tîm Gofal Critigol yn cofnodi gwybodaeth gyfrinachol am gleifion ar ein gweinydd diogel a chaiff data clinigol eu rheoleiddio’n ofalus yn unol â phrosesau llywodraethu GIG Cymru. Mae gan bob aelod o staff ddyletswydd gyfreithiol i gadw cofnodion cleifion yn gyfrinachol ac rydym yn dilyn gweithdrefnau llym er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith a diogelu’r data hyn. Gallwn rannu gwybodaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ond dim ond at ddibenion gofal clinigol y byddwn yn gwneud hyn ac ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth i drydydd partïon heb eich caniatâd.