Cymorth Cleifion

Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.

Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.

Gall gwella o salwch neu anaf critigol fod yn broses hir a heriol wrth i bobl symud rhwng gwahanol adrannau, ysbytai a chanolfannau adsefydlu cyn dychwelyd adref yn y pen draw.

Mae ein Nyrsys Cyswllt Cleifion yma i gefnogi cleifion a pherthnasau ar y daith honno, gan ddarparu cysondeb a chymorth drwyddi draw, a hyd yn oed ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Gall y cymorth hwn gynnwys:

  • Ymweliadau dilynol ar gyfnodau amrywiol wrth i'r claf wella; bydd hyn yn amrywio o un claf i'r llall yn dibynnu ar ei anghenion. Gall fod yn fuan ar ôl ei dderbyn i'r ysbyty neu ar ôl iddo gael ei ryddhau oddi yno, yn dibynnu ar ba mor hir mae'n cymryd iddo wella.
  • Ateb cwestiynau am y driniaeth a gawsoch cyn i chi fynd i'r ysbyty, a llenwi'r bylchau i'ch helpu i ddeall yr hyn a ddigwyddodd.
  • Cymorth emosiynol i gleifion a pherthnasau.
  • Eich cyfeirio at sefydliadau eraill a all gynnig help a chymorth i chi.
  • Trefnu i chi gyfarfod â'r criw gafodd ei alw allan atoch.
  • Cymorth profedigaeth  ar gyfer rheini sydd wedi colli anwylyd.

 Ymunodd Jo Yeoman â'n gwasanaeth yn 2019.

 Ymunodd Hayley Whitehead-Wright â'n gwasanaeth ym mis Mawrth 2022.