Mae'n bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi y bydd ei siop elusen yn y Mwmbwls yn ailagor yr wythnos nesaf, ar ôl cael ei gorfodi i gau oherwydd pandemig y Coronafeirws ym mis Mawrth 2020.

Bydd y siop yn Newtown Road yn agor ddydd Mercher, 27 Hydref rhwng 9.30am a 4.30pm a bydd ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn bob wythnos rhwng 9.30am a 4.30pm.

Gwnaed y penderfyniad i ailagor y siop yn y  Mwmbwls   ar ôl llwyddo i ailagor   ei siopau ledled Cymru.  

Gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth, bydd angen i unrhyw un dros 11 oed wisgo  gorchudd wyneb yn siop elusen y  Mwmbwls , ar wahân i'r rhai hynny sydd wedi'u heithrio rhag ei wisgo .      

Dywedodd Cyd-bennaeth Manwerthu'r Elusen, Rhys Richards: “Rydym wedi ailagor ein siopau elusen fesul tipyn ledled Cymru ac mae'n bleser gennym ailagor drysau ein siop yn y Mwmbwls ar ôl iddi orfod cau yn ystod y pandemig gwreiddiol. Mae ein siopau elusen sydd eisoes wedi agor yn gwneud yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y bydd ein siop yn y Mwmbwls yr un mor llwyddiannus.

“Hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eu hamynedd yn aros i'r siop ailagor. Heboch chi, ni fyddai ein gwasanaeth achub bywydau yn bodoli.”

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.   

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.   

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com.   

 Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.