Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Cymerodd Jamie Lloyd, barbwr o Orllewin Cymru, ran yn y digwyddiad llynedd ac mae'n gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli chi i gofrestru am le elusennol AM DDIM Ambiwlans Awyr Cymru yn Ironman 70.3 Abertawe eleni.

Cofrestrodd y tad o Abertawe ar gyfer y digwyddiad ar ôl gweld apêl ar dudalen Facebook Ambiwlans Awyr Cymru i bobl gwblhau'r her ar ran yr Elusen.

Dyma oedd y tro cyntaf iddo gymryd rhan mewn triathlon â'r pellter hwn, a chroesodd y llinell derfyn mewn 6 awr ac 13 munud.

Gosododd darged o £800 iddi'i hun ond llwyddodd i'w ddyblu - gan godi dros £2,000.

Dywedodd Jamie ar y pryd: "Gan fy mod yn byw yng Ngorllewin Cymru, rwy'n aml yn gweld pa mor werthfawr yw Ambiwlans Awyr Cymru gan ein bod yn bell iawn yma o'r ysbytai mwyaf."

Ar ôl ymarfer am fisoedd, roedd yn foment arbennig i Jamie a'i deulu pan gwblhaodd yr her. Dywedodd: "Roedd Zebedee, fy mab sy'n ddwy oed, yn aros amdanaf wrth y llinell derfyn gyda fy mhartner a fy mam."

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Cynhelir Ironman Abertawe eleni am y trydydd tro yn y ddinas. Bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn cwblhau cwrs nofio 1.2 milltir, taith feicio 56 o filltiroedd cyn gorffen drwy redeg hanner marathon.

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae David Balint, o Rondda Cynon Taf, hefyd yn gyfarwydd â'r her a chroesodd y llinell derfyn mewn ychydig yn llai na 6 awr y llynedd, gan godi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau.

Mae wedi gweld gwaith anhygoel yr Elusen Cymru gyfan gyda'i lygaid ei hun. Dywedodd: "Rwy'n borthor ysbyty ac yn ddiffoddwr tân yn Ysbyty'r Mynydd Bychan, a byddaf yn rhoi cymorth i'r ambiwlans awyr wrth iddynt gyrraedd y lleoliad gyda'u cleifion, felly rwyf wedi gweld fy hun y gwaith anhygoel maent yn ei wneud i'n helpu ni. Roedd hwn yn gyfle gwych i mi roi rhywbeth yn ôl iddynt."

Yn rhywbeth y bydd pob athletwr eisiau ei gyflawni - mae cwrs Ironman 70.3 Abertawe yn mynd ar hyd glannau Bae Abertawe, gan arwain at bentref glan môr y Mwmbwls, cyn beicio ymlaen drwy olygfeydd prydferth Penrhyn Gŵyr!

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Caiff Ambiwlans Awyr Cymru ei ariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai hynny sydd wedi cofrestru i gystadlu yn Ironman Abertawe eleni ar ran Ambiwlans Awyr Cymru.

"Mae'n ddigwyddiad anhygoel ac yn gofyn am ymrwymiad gwirioneddol gan athletwyr fel Jamie a David a wnaeth yn anhygoel y llynedd.

"Rydym yn gobeithio y bydd eu stori yn ysbrydoli eraill i gofrestru am leoedd elusennol AM DDIM sydd gennym ar gael ar hyn o bryd - yr unig beth y bydd angen i bobl ei wneud yw addo codi arian i ni. Drwy wneud hyn, byddant yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau.”

I wneud cais am le elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, ewch i www.walesairambulance.com/swansea70.3 neu anfonwch e-bost at [email protected].