Cyhoeddwyd: 25 Ebrill 2024

Mae hyfforddwr coleg wedi helpu i godi arian i elusen ar gyfer Cymru gyfan a achubodd fywyd ei ffrind ac a helpodd ei hewythr.

Mae Hazel Ramsay yn hyfforddi pobl ifanc blaen tŷ ym mwyty Bistro yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-rhos. Cymerodd ei myfyrwyr ran hefyd, a chasglwyd £863 drwy raffl i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd ei bod yn elusen y “gall fod ei hangen ar bawb ar ryw bwynt, p'un a fydd hynny ar gyfer teulu, ffrindiau neu gydweithwyr.”

Dywedodd Hazel, sydd wedi gweithio yn y coleg ers 18 o flynyddoedd: “Cafodd fy ffrind ddamwain car ddrwg gyda'i phartner. Gwnaeth yr ambiwlans awyr ei hachub. Cymerodd amser hir i wella, a chafodd gyfnod hir o'i gwaith.

“Mae bob amser yn gofyn i mi; ‘A allwn gynnal raffl eto ar gyfer yr ambiwlans awyr?’ Felly, dywedais, wrth gwrs.”

Roedd angen cymorth ar ewythr Hazel hefyd gan yr ambiwlans awyr, dywedodd: “Roedd yn torri gwair rhywun un diwrnod, yn helpu, yn ôl ei arfer. Cafodd ei daro'n wael. Daeth yr ambiwlans awyr allan ato, ond yn anffodus, ni ellid ei achub, ond gwnaethant eu gorau.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Dywedodd Hazel: “Mae'r tîm meddygol yn ardderchog, mae'r hyn maen nhw'n ei wneud yn anhygoel. Dyma pam roeddwn i am gael fy holl ddysgwyr yn y Bistro i gymryd rhan. Maen nhw'n ifanc hefyd, mae rhai ohonyn nhw'n 16 oed.

“Mae'n bwysig iddyn nhw ddysgu am elusennau a'r gwaith da maen nhw'n ei wneud.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Roedden nhw'n awyddus iawn i gymryd rhan a bydden nhw'n mynd o gwmpas y coleg a'r ffreutur bob dydd, yn gofyn a fyddai pobl yn hoffi prynu tocynnau raffl.

“Cawsom wobrau gwych, dros 50 o eitemau, gan gynnwys dau dedi bêr ambiwlans awyr, a phedair taleb gwerth hyd at £100. Roedd hamperi, siocled a photeli gwin.

“Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi codi £1,000 ond gwnaethom gyrraedd £863, sydd dal yn swm da. Efallai ei fod yn ymddangos fel swm bach o arian, ond mae popeth yn helpu.

Ychwanegodd: “Gwn fod yn rhaid i'r elusen godi ei harian ei hun. Ni allaf ddychmygu faint mae'n ei gostio i ddefnyddio'r hofrennydd bob tro. Felly, os gallwn gynnal raffl eto, byddwn yn gwneud hynny.”

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd garedig i Ambiwlans Awyr Cymru! Mae'n amlwg bod hwn yn achos agos iawn at galon Hazel gan fod ein tîm wedi helpu ei ffrind a'i hewythr.

“Mae'n hyfryd bod myfyrwyr Bistro Coleg Llandrillo wedi cymryd rhan hefyd. Mae raffl yn ffordd wych o godi arian a'n helpu i gyrraedd ein targed o 11.2 miliwn bob blwyddyn.

“Mae ein gwasanaeth yn ymrwymedig i achub mwy o fywydau ledled Cymru, ac ateb yr alwad – pryd a ble bynnag y bydd ein hangen ar bobl, ac er mwyn i ni allu gwneud hyn, mae angen eich cymorth parhaus.”