Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Ar ôl cwblhau dau hanner marathon yn llwyddiannus y llynedd, mae Steven Jackson bellach yn gobeithio codi mwy o arian i'r elusen a'i helpodd, drwy gymryd rhan ym Marathon Llundain.

Cafodd Steven o Sant-y-brid, Bro Morgannwg, ei achub gan Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn damwain beic yn Ninbych-y-pysgod tra'n cystadlu mewn digwyddiad Cwrs Pellter Hir, yn 2022.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn darparu gofal critigol uwch ledled Cymru, ac yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng Sector Cyhoeddus a Thrydydd sector unigryw rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Cafodd Steven driniaeth yn y fan a'r lle gan griw Ambiwlans Awyr Cymru cyn iddo gael ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle treuliodd saith wythnos yn cael triniaeth ar gyfer anaf difrifol i'r ymennydd.

Er mwyn dangos pa mor ddiolchgar ydoedd mae Steve wedi rhedeg hanner marathonau Abertawe a Chaerdydd yn y gorffennol ar gyfer yr

Elusen Cymru gyfan a chodi swm anhygoel o £2,000. Eleni bydd yn gwisgo ei esgidiau rhedeg eto ac mae'n gobeithio, gyda chymorth gan ei ffrindiau a'i deulu, codi £1,000 ychwanegol.

Dywedodd Steven, a oedd yn teimlo'n ddiolchgar iawn i'r elusen:  “Roeddwn yn lwcus iawn cael help gan y gwasanaeth yn 2022. Yn ffodus, gwnaeth y cymorth brys a gefais gan y criw ambiwlans awyr ar y diwrnod osgoi canlyniad hollol wahanol i mi. Ar ôl fy namwain, rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o'r cymorth sy'n achub bywydau gan yr elusen i bobl ledled Cymru ac rwy'n falch o fod mewn sefyllfa i gefnogi'r gwasanaeth i barhau i wneud hyn.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.

Dywedodd Steven, sy'n gweithio fel Rheolwr Rhaglen i Grŵp Lloyds Banking: “Mae'r hyfforddiant yn mynd yn dda er fy mod i'n dechrau teimlo'r blinder, sy'n ddisgwyliedig wrth i'r milltiroedd gynyddu gydag ychydig dros fis i fynd. Rwy'n edrych ymlaen at ychydig o heulwen y gwanwyn nawr a pheidio â rhedeg mewn glaw parhaus.

“Mae fy ffrindiau yn gefnogol dros ben ac mae cydweithwyr yn rhedeg Marathon Llundain hefyd, felly rydym yn gallu cefnogi ein gilydd drwy'r hyfforddiant ac yn gobeithio rhedeg gyda'n gilydd ar y diwrnod, cyhyd â bod yr ochr gystadleuaeth ddim yn cymryd drosodd!”

Ychwanegodd Steven ei fod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan ei deulu. Dywedodd: “Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth gan fy ngwraig Sarah, a fy mab Harvey, sy'n cefnogi fy hyfforddiant - yn enwedig pan fydd angen i mi ddiflannu am oriau ar y tro pan fyddaf yn mynd i redeg ar y penwythnos. Ni fyddwn yn gallu gwneud hyn heb y gefnogaeth ardderchog ganddynt nawr ac yn ystod fy nghyfnod adsefydlu ar ôl y damwain.”

Caiff Ambiwlans Awyr Cymru ei ariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n ardderchog clywed bod Steven yn gwneud yn dda ers ei ddamwain. Diolch yn fawr am barhau i godi arian i'n hachos. Hwn yw ei drydydd digwyddiad codi arian, a bydd yn dipyn o her!

 “O fod wedi profi buddion ein gwasanaeth yn uniongyrchol, mae Steven yn parhau i gefnogi'r Elusen er mwyn i ni allu cynorthwyo eraill ar draws Cymru.

“Ni fyddem yn gallu cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd heb y rhoddion hael rydym yn eu cael gan bobl fel Steven. Dymunwn y gorau iddo â'i hyfforddiant.”

Gyda help a chymorth gan ffrindiau a theulu, mae Steve yn gobeithio codi £1,000 ychwanegol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Steve drwy roi arian drwy ei dudalen Just Giving yma.