Cyhoeddwyd: 29 Ebrill 2024

Cynhaliwyd digwyddiad codi arian 'Coffi a Chacen' llwyddiannus ar gyfer elusen sy'n achub bywydau gan gyd-wirfoddolwyr er cof am wirfoddolwr ymrwymedig a ffrind.

Yn dilyn y newyddion trist y bu farw Anita Harrhy ym mis Rhagfyr, roedd ei ffrindiau yn Ambiwlans Awyr Cymru am ddathlu ei bywyd a'i hymroddiad i'r elusen. 

Roedd y digwyddiad i godi arian, a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Gymunedol Paul Lewis yn Sain Tathan, yn cynnwys cacennau, rafflau, a thombola. Roeddent hefyd yn gwerthu eitemau wedi'u gwau â llaw, yr oedd llawer ohonynt wedi cael eu gwneud gan wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru a ffrindiau a theulu Anita a Carol Hamilton.

Llwyddodd y digwyddiad Coffi a Chacen er cof am Anita i godi swm anhygoel o £1,000 ar gyfer yr elusen Cymru gyfan.

Roedd Anita, a oedd wedi bod yn gwirfoddoli i'r Elusen ers 2017, yn uchel ei pharch ymysg staff Ambiwlans Awyr Cymru a byddai'n mynd i lawer o'r digwyddiadau gyda Carol a Howard Hamilton, ei ffrindiau agos sydd hefyd yn wirfoddolwyr.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Dywedodd Sandra Hembery, Rheolwr Datblygu Gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae marwolaeth Anita wedi tristáu pob un ohonom a fu mor ffodus i gwrdd â hi. Mae ei hymrwymiad diwyro i Ambiwlans Awyr Cymru ers 2017 wedi cyffwrdd llawer o fywydau. Bydd yn cael ei chofio'n gariadus am ei charedigrwydd, ei chwerthin, a'i hymroddiad anhunanol i'n hachos. Rydym yn meddwl am ei theulu a'i ffrindiau ar yr adeg hynod anodd hon.

"Roedd yn hyfryd clywed bod ei chyd-wirfoddolwyr am godi arian i'r elusen er cof am Anita, a gwnaethant godi swm anhygoel."

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.