Cyhoeddwyd: 18 Ebrill 2024

Mae arbenigwr coffi yng Ngorllewin Cymru yn benderfynol o wella eich hwyliau mis Mai hwn gyda thaith gerdded elusennol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Phil Smith, Cyfarwyddwr Capital Roasting yn Noc Penfro yn ogystal â chwe aelod arall o Glwb Rotari Sir Benfro wedi treulio'r pedwar mis diwethaf yn trefnu digwyddiad er budd yr elusen sy'n achub bywydau.

Mae'r Daith Gerdded Toriad Gwawr yn dechrau yng Nghastell Penfro ac yn herio cerddwyr i gerdded 13 milltir neu 26 milltir ddydd Sul 12 Mai.

Bydd y cerddwyr yn dechrau am 6am a bydd ganddynt tan 4.30pm yr un diwrnod i gwblhau'r her.

Dywedodd Phil Smith: "Gall unrhyw un â lefel resymol o ffitrwydd gerdded 13 milltir, ond mae 26 milltir rywfaint yn fwy o her. Ond cyhyd â bod gennych bâr o esgidiau cerdded da a'ch bod yn dda eich iechyd, nid oes rheswm pam na all y rhan fwyaf o bobl ei gwblhau."

Bydd cynorthwywyr ar hyd y llwybr a bydd gorsafoedd dŵr hefyd.

Mae cwmni Phil wedi bod yn rhostio coffi yn Noc Penfro ers 1991, gan gyflenwi cwsmeriaid lleol a chwmnïau ledled y DU. Maent wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru dros y saith mlynedd diwethaf.

Mae'n esbonio'r rheswm pam: "Rydym wedi bod yn casglu tuniau ac wedi codi swm sylweddol o arian wrth i bobl ddod i mewn a rhoi arian ynddynt ac rwyf wedi trefnu digwyddiadau bach eraill gyda fy ffrindiau er mwyn codi arian ar gyfer yr ambiwlans awyr.

"Rydym yn byw mewn ardal anghysbell yma, ac felly mae'n adnodd hanfodol i unrhyw un sy'n wynebu digwyddiadau difrifol yn y rhan yma o'r byd."

Ambiwlans Awyr Cymru yw'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n ymrwymedig i'r bobl yng Nghymru a chaiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Caiff ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Fel rhywun sydd wedi rhedeg marathon a marathon pellter eithafol, mae Phil wrth ei fodd â her. Mae'n hyfforddi bum gwaith yr wythnos - ond mae'n edrych ymlaen at arafu pethau ar gyfer y

digwyddiad codi arian arbennig hwn ac yn gobeithio y daw llu o bobl i gefnogi Clwb Rotari Sir Benfro wrth iddo geisio codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Aeth Phil ymlaen i ddweud: "Gall unrhyw un dros 16 oed gymryd rhan yn y digwyddiad. Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o'r fath ac felly nid oes gennym syniad faint o bobl fydd yn cymryd rhan ynddo. Byddai cael rhwng 50 a 100 o bobl yn wych!

Cost mynediad i'r digwyddiad yw £20 a byddant yn cael crys-t y digwyddiad a medal. Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru, ewch i https://www.eventbrite.com/e/sunrise-walk-raising-funds-for-charity-tickets-769481308307

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Rotari Sir Benfro am drefnu taith gerdded er mwyn codi arian er ein budd ni. Diolch i'n cefnogwyr, gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau

"Mae ein partneriaeth â'r GIG yn ein galluogi i ddarparu gofal critigol i'r cleifion, pryd bynnag a ble bynnag sydd ei angen arnynt. Dyma pam ein bod mor ddiolchgar pan fydd cwmnïau a sefydliadau yn ein dewis i gyrraedd ein targed o £11.2 miliwn.

"Pobl lwc i bawb fydd yn cymryd rhan a diolch."

Cost mynediad i'r digwyddiad yw £20 a byddant yn cael crys-t y digwyddiad a medal. Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru, ewch i https://www.eventbrite.com/e/sunrise-walk-raising-funds-for-charity-tickets-769481308307