Cyhoeddwyd: 02 Mai 2024

Mae grŵp o ffermwyr yng Nghymru wedi rhoi miloedd o bunnoedd i'r elusen Cymru gyfan sy'n achub bywydau, ar ôl i'r clwb ddod i ben ar ôl 44 o flynyddoedd.

Ar ei anterth, arferai Clwb Bridwyr Texel Gogledd Cymru fod â mwy na 80 o aelodau – ond ers 2020 mae'r ffigurau wedi gostwng.

Dywedodd Alwyn Phillips, y Cadeirydd: "Gwnaethom ddechrau yn 1980, gyda'r prif nod o drefnu gwerthiant blynyddol i aelodau werthu defaid gwrywaidd a benywaidd. Roeddem yn gwneud hynny i ddechrau yn y babell fawr ar Faes Sioe Môn, ond yna gwnaethom symud i safle Arwerthu Morgan Evans yng Ngaerwen.

"Ar ben hyn, buom yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd a oedd yn rhoi'r cyfle i aelodau ddod ynghyd drwy gydol y flwyddyn, i gyfnewid syniadau a chael gwrando ar siaradwyr gwadd o wahanol sectorau amaethyddol.

"Dros y pedair neu bum blynedd diwethaf, mae nifer yr aelodau wedi gostwng ac erbyn y diwedd, dim ond tua 25 ohonom oedd ar ôl. Roedd rhai wedi ymddeol ond yn cadw eu haelodaeth, felly gwnaethom benderfynu y byddai'n well dod â'r clwb i ben."

Dywedodd fod yr aelodau a oedd ar ôl am sicrhau y byddai unrhyw arian a oedd yn weddill yng nghyfrif banc y clwb yn mynd i achos da, gyda phwyslais penodol ar amaethyddiaeth.

Aeth Alwyn ymlaen i ddweud: "Yn hytrach nag anfon yr arian yn ôl i'r gymdeithas genedlaethol, gwnaethom benderfynu ei rannu ag elusennau lleol yn ein cymuned yn y gogledd.

"Yr un fwyaf poblogaidd oedd yr ambiwlans awyr, am ein bod yn ffermwyr sy'n byw mewn cymunedau anghysbell, rydym yn deall pwysigrwydd yr hyn mae'r tîm yn ei wneud."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Dywedodd Alwyn: "Rhoi'r £4,000 a oedd yn weddill yn ein cyfrif banc i'r ambiwlans awyr yw ein ffordd ni o ddiolch am wneud yr hyn maent yn ei wneud, ac am helpu'r rhai mewn angen pan fydd eu hangen fwyaf.

"Rwy'n gwybod nad yw'n llawer, ond mae'r elusen yn dibynnu ar roddion fel hyn i'w helpu i weithredu. Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o hynny, felly roeddem am sicrhau y byddai'n cael budd o'r hyn oedd yn weddill.

"Rydym yn gweld yr ambiwlans awyr yn hedfan uwch ein pennau yn aml o amgylch yr ardal hon. Unwaith, bu'n rhaid iddo lanio yn fy nghae oherwydd damwain y tu allan i'r fferm yma.

"Rwy'n meddwl fod y gwasanaeth yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig ledled Cymru, am fod Ysbyty Gwynedd a'r ysbytai eraill yn bell iawn oddi wrth lawer o'r ffermydd yng nghanol Eryri.

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r elusen yn falch iawn o'i chysylltiadau cryf â chymunedau ffermio ledled Cymru, ac rydym yn ddiolchgar am garedigrwydd Clwb Bridio Gogledd Cymru yn meddwl amdanom wrth nodi diwedd cyfnod.

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth a arweinir gan feddygon ymgynghorol, ac mae angen i ni godi swm mawr o arian bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gyrraedd pobl mewn sefyllfaoedd sy'n bygwth eu bywyd neu ran o'r corff.

"Rydym wir yn dibynnu ar roddion fel hyn i'n helpu i gyrraedd ein targed, fel bod modd i ni barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub cynifer o fywydau â phosibl – lle bynnag a phryd bynnag y bydd ein hangen."