Cyhoeddwyd: 07 Mai 2024

Mae staff hynod hael Grŵp Tai Wales & West (Wales & West Housing Group, WWHG) wedi codi £42,000 i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a Blood Bikes Wales.

Daeth y rhai a gododd yr arian i ymweld â'n safle yn Nafen yn ddiweddar, lle rhoddwyd dwy siec o £21,000 i gynrychiolwyr y ddwy elusen sy'n achub bywydau.

Cafodd yr arian ei godi mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy eu pecynnau cyflog.

Dywedodd Diane Barnes, uwch weinyddwr Grŵp Tai Wales & West: "Mae ein staff yn garedig iawn! Pryd bynnag y byddaf yn trefnu unrhyw fath o ymgyrch codi arian, boed yn raffl neu'n ddyddiau Gwener gwisgo'n hamddenol, maent yn cyfrannu.

"Ar ddiwedd bob mis, rydym yn casglu ceiniogau o gyflogau, mae'r gyflogres yn tynnu ceiniogau oddi ar ddiwedd cyflog pob person. Os byddant wedi cytuno i wneud hynny o flaen llaw.

"Er efallai nad yw'n swnio fel y gall droi'n gyfanswm mawr, erbyn diwedd y flwyddyn bydd yn gasgliad o ryw £600.

Ni fyddant fyth yn talu mwy na £0.99. Gallwch dalu cyn lleied â cheiniog y mis. Mae'n anhygoel pan mae gennych lawer o staff."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Dyma'r ail dro i Grŵp Tai Wales & West gefnogi'r ambiwlans awyr. Dywedodd Diane: "Rydym wedi codi arian i'r elusen yn y gorffennol, pan ymunodd y tîm gofal critigol â nhw am y tro cyntaf.

"Rydym bob amser yn dewis elusennau sy'n helpu pobl ledled y wlad neu'n rhoi cymorth iddynt, ac mae gennym broses enwebu hefyd. Y tro hwn, Ambiwlans Awyr Cymru oedd y dewis mwyaf poblogaidd."

Ychwanegodd: "Cafodd un o'n haelodau o staff brofiad o'r gwasanaeth hefyd yn ddiweddar am ei bod hi'n rheoli un o'n cynlluniau tai ar gyfer pobl hŷn.

"Tarodd un o'r preswylwyr yno yn sâl, a hedfanodd yr ambiwlans awyr draw ato a'i gludo i'r ysbyty yn gyflym, gan achub ei fywyd.

"Roedd ganddo reswm personol dros enwebu'r elusen, ac i fod yn gwbl onest, mae gan lawer o bobl ryw fath o brofiad gyda'r gwasanaeth."

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Bydd yr arian a godwyd gan Grŵp Tai Wales & West yn helpu ein tîm i ymateb i wyth galwad, a gall hefyd gael ei ddefnyddio i helpu i roi cymorth i gleifion ar ôl salwch neu anaf, drwy Wasanaeth Ôl-ofal i Gleifion yr elusen.

Gall nyrsys cyswllt cleifion gynnig cymorth parhaus i gleifion a'u teuluoedd.

Dywedodd Diane: "Gwnaethom ddysgu cymaint am y gwaith a wneir gan y tîm ambiwlans awyr yn ystod ein hymweliad â'r safle yn Nafen. Rydym gan amlaf yn cael elusennau yn dod atom ni - ond roedd cael cyfarfod y tîm, gweld yr hofrennydd yn agos yn ogystal â'r holl gyfarpar yn anhygoel. Maent yn cludo cymaint o bethau gyda nhw.

"Cafodd ein staff ddod hefyd, gan mai nhw a gododd yr holl arian, ac nid ydynt wedi stopio siarad am y peth. Rydym wedi bod yn siarad amdano am wythnosau - mae wedi cael effaith fawr arnon ni gyd.

"Cawsom fynd allan i'r lanfa ac roedd y peilot a'r parafeddygon yn anhygoel, gwnaethant dreulio llawer iawn o amser yn egluro i ni yr hyn y maent yn ei wneud. Roedd pawb wedi syfrdanu."

Aeth ymlaen i ddweud: "Un o'r pethau a wnaeth fy synnu fwyaf oedd yr hyn y mae'r criw yn gallu ei gyflawni'n feddygol ar yr hofrennydd pan fyddant yn cyrraedd galwad. Roeddwn yn gwybod eu bod yn gymwys iawn, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli y lefel o driniaeth y gallant ei rhoi boed ar ochr ffordd neu ar ben mynydd."

Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Creu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydyn ni wir yn ddiolchgar am y cymorth rydym wedi ei dderbyn gan Grŵp Tai Wales & West.

"Bydd yr arian a godwyd yn gwneud gwahaniaeth sy'n achub bywydau i'r rheini sy'n dioddef salwch neu anaf sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff. Oni bai am haelioni pobl Cymru, ni fyddai ein gwasanaeth 24/7 yn bodloni, ac mae rhoddion fel hyn yn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau.

"Diolch i bawb a gymerodd ran yn codi swm anhygoel o arian i ni a Blood Bikes Wales."

Mae Blood Bikes Wales yn elusen wirfoddoli 100% sy'n darparu gwasanaeth cludo samplau gwaed, plasma, llaeth dynol a roddwyd, dogfennau meddygol, yn ogystal ag eitemau eraill am ddim ar gefn beic modur i'r GIG ledled Cymru gyfan. Caiff ei ariannu'n llwyr gan roddion gan y cyhoedd.

Dywedodd Lesley Isaacs-Penny, Is-gadeirydd Blood Bikes Wales: "Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb yng Ngrŵp Tai Wales a West am eu haelioni. Rwy'n credu mai dyma'r swm mwyaf o arian sydd wedi cael ei godi gan y cyhoedd a'i roi i'n helusen mewn un rhodd.

"Mae codi arian yn fwy anodd nag erioed am nad yw ein cymdeithas yn cario llawer o arian parod erbyn hyn, felly bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n gwaith. Bydd yn sicrhau bod ein holwynion yn parhau i droi."