Cyhoeddwyd: 07 Mai 2024

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn i bobl Cymru gymryd rhan yn ei hymgyrch Cerdded Cymru flynyddol.

Ydych chi'n barod am yr her o gerdded 50 milltir ym mis Mehefin ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau?Eich taith gerdded chi, eich ffordd chi, yw hon, a bydd pob cam yn gwneud gwahaniaeth sy'n achub bywyd.

Mae'r ymgyrch flynyddol Cerdded Cymru yn galluogi cyfranogwyr i gerdded, loncian neu redeg gwahanol bellteroedd pob blwyddyn, gan godi arian ar yr un pryd.Felly os ydych chi wedi colli rhywfaint o'ch cymhelliant ac awyddus i wynebu her, yna dyma'r digwyddiad i chi.

Mae Cerdded Cymru 2024 yn agored i bobl o bob oedran a'r hyn sy'n dda am yr her rithwir yw ei bod yn rhoi'r cyfle i 'gerddwyr' naill ai fynd allan i archwilio Cymru neu wneud eu stepiau gartref, wrth arddio, mynd â'r ci am dro neu gerdded i fyny ac i lawr y grisiau hyd yn oed!

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu 24/7 ledled Cymru, ac mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae digwyddiad llwyddiannus Cerdded Cymru wedi codi swm anhygoel o £110,000 ar gyfer yr achos.

Bydd yr her yn digwydd yn ystod mis Mehefin ac ni fydd yn costio dim i gymryd rhan. Fodd bynnag, anogir cyfranogwyr i godi arian ar gyfer yr Elusen Cymru gyfan. Bydd cerddwyr a fydd yn codi £50 yn cael crys-t chwaraeon Ambiwlans Awyr Cymru gyda dyluniad newydd arno.

Ers 2020, mae ymgyrchwyr codi arian o bob oed wedi dod yn llu i ddangos eu cefnogaeth i'r elusen sy'n achub bywydau, gan gynnwys Kara Richards, merch ysgol 9 oed, a gymerodd ran yn Cerdded Cymru yn ystod 2022 a 2023. Cododd Kara dros £1,000 ar gyfer yr Elusen.

Y peth gwych am yr her rithwir yw nad oes rhaid i'r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru yn unig - cymerodd Lawrence a Julie Morris, y ddau o Abertyleri, ran o Gyprus!

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Cerdded Cymru yn gyfle rhyfeddol i bobl o bob oed ddod ynghyd gyda ffrindiau, teulu, ffrindiau ysgol a chydweithwyr i chwarae rôl bwysig yn helpu i gefnogi ein gwasanaeth sy'n achub bywydau yng Nghymru, gan gadw'n heini a chyflawni her bersonol yr un pryd.

"Gwnaethom lansio Cerdded Cymru am y tro cyntaf yn 2020, a phob blwyddyn bydd ein cefnogwyr yn gwisgo eu hesgidiau cerdded ac yn codi arian hanfodol ar gyfer ein hachos. Rydym yn falch iawn fod yr ymgyrch hon wedi codi dros £110,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae heriau fel Cerdded Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ledled Cymru.” 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.