1. Y Telerau ac Amodau hyn yw rheolau'r Raffl. Drwy gymryd rhan yn y Raffl, rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth y Telerau ac Amodau hyn. Mae'r holl gyfarwyddiadau ar roi cynnig ar y Raffl a chymryd rhan ynddi yn rhan o'r Telerau ac Amodau hyn. Ni fydd unrhyw gynigion nad ydynt yn cydymffurfio â'r Telerau ac Amodau hyn yn ddilys.
  2. Drwy chwarae Raffl yr Elusen, bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn helpu i gyfrannu at ariannu gwaith yr elusen, gan ei galluogi i roi gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru.
  3. Caiff y Raffl ei thrwyddedu a'i rheoleiddio gan y Comisiwn Hapchwarae o dan Ddeddf Hapchwarae 2005 gamblingcommission.gov.uk
    1. Rhif trwydded 000-004829-N309733-010
  4. Mae'r Elusen yn dymuno cynnal ei Raffl mewn ffordd sy'n deg a chyfrifol yn gymdeithasol, sy'n annog hapchwarae cyfrifol. Byddwn yn adolygu'r telerau ac amodau bob chwe mis ac yn eu diweddaru fel sy'n ofynnol gan y gyfraith o bryd i'w gilydd.
  5. James Stephens a Mark Stevens yw'r unigolion cyfrifol a gellir cysylltu â nhw drwy'r cyfeiriad ar y dudalen hon. Nid yw'r unigolion cyfrifol yn gymwys i chwarae Raffl yr Elusen.
  6. Mae pob tocyn raffl yn costio £1, ac uchafswm nifer y cynigion y gellir eu gwneud yw 100 ym mhob Raffl.
  7. Dim ond tocynnau y talwyd amdanynt sy'n gymwys i gael eu cynnwys yn y Raffl. Bydd gan bawb sy'n gymwys gyfle cyfartal i ennill gwobr. Mae'n rhaid i enw'r person sy'n cymryd rhan yn y Raffl fod yn glir ar bob tocyn Raffl a/neu ffurflen ymateb. Os na fydd modd dod o hyd i'r unigolyn sydd berchen ar y tocyn, ni fydd yn cael ei gynnwys yn y Raffl a chaiff drin fel rhodd.
  8. Ni fydd arian am docynnau sydd dros y terfyn uchaf; dros gyfanswm y cynigion; neu a gaiff ei ddychwelyd ar ôl 17 Mehefin 2024 yn cael ei gynnwys ond caiff ei drin fel rhodd yn lle hynny.
  9. Er mwyn cymryd rhan, mae'n rhaid eich bod yn 18 oed neu drosodd. O 25 Mehefin 2021 ymlaen, yn unol â'r Loteri Genedlaethol, ni fydd Ambiwlans Awyr Cymru yn gwerthu cynigion raffl yn fwriadol i unrhyw unigolyn o dan 18 oed. Lle bydd yn briodol, bydd yr Elusen yn cynnal gwiriadau i gadarnhau'r gofyniad hwn, gan gynnwys ceisio cadarnhad gan asiantaethau perthnasol a all ddarparu gwybodaeth o'r fath pan fydd angen.
  10. Os canfyddir bod enillydd gwobr o dan 18 oed, byddwn yn ad-dalu ei arian ac yn tynnu'r wobr yn ôl. Ar ben hyn, ceidw'r elusen yr hawl i adennill unrhyw wobrau a roddwyd mewn camgymeriad. Ni ellir trosglwyddo'r gwobrau.
  11. Caiff enillwyr eu dewis ar hap drwy eu rhif tocyn unigryw. Gellir dod o hyd i rifau'r tocynnau ar fonion y raffl ac ar brif ran y tocyn, ac os archebwyd y tocyn drwy wefan yr elusen – gallwch anfon ymholiad i: [email protected] gan ddyfynnu'r rhif cadarnhau unigryw a roddwyd i chi wrth brynu'r tocyn.
  12. Byddwn yn tynnu'r raffl ar  28 Mehefin 2024 a byddwn yn ceisio cysylltu â'r enillwyr dros y ffôn, os bydd eu rhif ffôn gennym, ar yr un diwrnod. Os na fydd rhif ffôn wedi cael ei roi i ni, byddwn yn ceisio cysylltu dros e-bost, ac yna drwy'r post o fewn 14 diwrnod i ddyddiad tynnu'r raffl. Cadwn yr hawl i dynnu enwau enillwyr nad ydym wedi gallu cysylltu â nhw yn ôl, a dewis enillydd arall.
  13. Bydd rhestr lawn o'r enillwyr ar gael ar wefan ambiwlansawyrcymru.com o 29 Mehefin 2024.
  14. Bydd cyfanswm y gronfa wobrau yn 9% o gyfanswm yr enillion, hyd at £3,800 ym mhob raffl.
  15. Caiff ymatebion i'r raffl eu prosesu'n fewnol gan staff a gyflogir gan Ambiwlans Awyr Cymru.
  16. Gall holl breswylwyr y DU (gan gynnwys gwirfoddolwyr yr Elusen) gymryd rhan yn y raffl, ond eithrir ceisiadau gan: Ymddiriedolwyr neu Gyfarwyddwyr yr Elusen; cyflogeion yr Elusen, neu drydydd partïon sy'n rhan uniongyrchol o'r broses o weinyddu neu rheoli'r Raffl, neu sydd â'r gallu i ddylanwadu ar ganlyniadau'r Raffl, gan gynnwys aelodau o'r un aelwyd.
  17. Byddwn yn tynnu'r raffl yn Nhŷ Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen SA14 8LQ. Bydd y tocynnau buddugol yn cael eu dewis ar hap gan unigolyn dan oruchwyliaeth, sy'n niwtral i'r elusen. Bydd dau rif wrth gefn yn cael eu tynnu ar gyfer pob gwobr. Mae hyn rhag ofn na fydd yr enillydd yn dod yn ei flaen o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad tynnu'r raffl. Mae canlyniadau'r digwyddiad tynnu raffl yn derfynol.
  18. Mae'n rhaid i'r enillwyr gydnabod eu gwobr er mwyn ei hawlio. Bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobr drwy siec neu drosglwyddiad banc drwy'r post o fewn 20 diwrnod gwaith i ddyddiad tynnu'r raffl fan bellaf, wedi'i chyfeirio at fanylion y chwaraewr sydd gan yr elusen ar ddiwrnod y raffl.
  19. Bydd unrhyw wobrau na chânt eu cyfnewid am arian parod na'u hawlio yn cael eu hystyried fel rhodd i'r Elusen ar ôl cyfnod o chwe mis.
  20. Ceidw'r Elusen yr hawl i oedi unrhyw ddigwyddiad tynnu raffl am gyfnod o 14 diwrnod fan bellaf; os bydd argyfwng. Bydd manylion am unrhyw oedi yn ymddangos ar wefan yr elusen ambiwlansawyrcymru.com
  21. Ceidw'r Elusen (y Trwyddedai) yr hawl i newid, canslo, terfynu neu ohirio'r Raffl yn llawn, neu ran ohoni, yn ôl disgresiwn y Trwyddedai.
  22. Yn ddarostyngedig i gymal 21, ni fydd y Trwyddedai yn atebol am y canlynol:
    1. Cynigion Raffl neu gyfathrebiadau a gaiff eu colli, eu dwyn, neu eu hoedi yn y post, sydd wedi'u difrodi neu sy'n annarllenadwy, na ellir adnabod enillydd y wobr neu'r ymgeisydd ohonynt neu na thalwyd digon am eu postio (nid yw tystiolaeth o bostio yn gyfwerth â thystiolaeth o'u derbyn);
    2. methiant neu analluedd y Trwyddedai i gysylltu â chi a/neu i wobrwyo unrhyw wobr o ganlyniad i unrhyw wallau, diffygion neu anghywirdebau yn y manylion cyswllt neu fanc a roddwyd gennych, neu fethiant ar eich rhan i ddiweddaru'r rhain os byddant yn newid;
    3. colled neu ddifrod a achoswyd gennych chi mewn cysylltiad â'ch cynnig yn y Raffl, neu eich defnydd o unrhyw wobr;
    4. unrhyw achosion o darfu neu wallau ar y Wefan;
    5. gwallau neu fethiannau i galedwedd neu feddalwedd dechnegol neu gysylltiadau coll, diffygiol neu nad ydynt ar gael; neu
    6. unrhyw fethiant neu oedi y tu hwnt i reolaeth resymol y Trwyddedai.
  23. Os byddwn yn cael gwybod bod un o gyfranogwyr y raffl wedi marw, bydd yr elusen yn gwneud pob ymdrech resymol i gysylltu â chynrychiolwyr neu ysgutorion personol yr ymgeisydd i sefydlu ei ddymuniad mewn perthynas ag unrhyw wobrau sydd heb eu hawlio. Os na fydd yr elusen yn gallu cael gafael ar gynrychiolwyr neu ysgutorion personol yr ymgeisydd, bydd yn cadw'r arian am chwe mis o'r dyddiad y daethom i wybod am ei farwolaeth. Ar ôl yr amser hwn, bydd yr arian yn cael ei ystyried fel rhodd i'r elusen.
  24. Mae modd i'r cynrychiolwyr neu'r ysgutorion gysylltu â'r elusen i hawlio'r arian ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o chwe mis, a chyn belled ag y gallant ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd yr elusen yn gofyn amdani'n rhesymol, bydd yr elusen wedyn yn ad-dalu'r arian. Ni fydd unrhyw log yn daladwy mewn perthynas ag arian a ad-dalwyd.
  25. Bydd yr Elusen yn cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR) ynghyd â'n polisi diogelu data a'n gweithdrefnau i ddiogelu eich data personol.
  26. Bydd yr union debygolrwydd o ennill gwobr yn y raffl yn ddibynnol ar nifer yr ymgeiswyr yn y pen draw, ac felly bydd pob digwyddiad tynnu raffl yn wahanol. Rydym wedi amcangyfrif mai'r siawns y bydd tocyn unigol yn ennill unrhyw wobr yn y Raffl yw tua 1:16,667.
  27. Mae'r holl elw o'r raffl yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwaith yr elusen.
  28. Ceidw'r Elusen yr hawl i wneud newidiadau i'r rheolau hyn, a bydd yn cyhoeddi unrhyw newidiadau 28 diwrnod o flaen llaw ar wefan yr elusen, yn unol â'r gyfraith.
  29. Gwahoddir yr enillwyr i gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddusrwydd i hyrwyddo'r Raffl, ond nid yw hyn yn rhag-amod cyn cymryd rhan yn y digwyddiad tynnu raffl, a cheidw'r enillydd yr hawl i aros yn ddienw.

 

Problem Hapchwarae

Er y byddem wrth ein boddau yn cael cynifer o bobl â phosibl i'n cefnogi drwy gymryd rhan yn Raffl Haf Ambiwlans Awyr Cymru, mae'n bwysicach fyth helpu aelodau'r cyhoedd i hapchwarae yn gyfrifol. Sicrhewch eich bod yn cadw'r canlynol mewn cof:

  1. Dylai hapchwarae fod yn ychydig o hwyl, yn hytrach na ffordd o wneud arian.
  2. Ceisiwch osgoi mynd ar ôl arian a gollwyd
  3. Dim ond yr hyn y gallwch fforddio ei golli y dylech ei hapchwarae
  4. Cadwch gofnod o'r amser rydych yn ei dreulio yn hapchwarae, a'r arian rydych yn ei wario
  5. Os oes angen i chi siarad â rhywun am broblem hapchwarae, cysylltwch â GamCare. Mae GamCare yn elusen gofrestredig sy'n darparu cymorth a chwnsela cyfrinachol dros y ffôn i unrhyw un y mae problem hapchwarae yn effeithio arnynt. Gallwch gysylltu â llinell gymorth GamCare yn gyfrinachol ar 0808 8020 133. Gallwch hefyd fynd i wefan GamCare i gael rhagor o wybodaeth a chyngor. gamcare.org.uk/welsh/
  6. Cysylltwch ag  [email protected]  er mwyn rhoi gwybod i ni os ydych am gael eich eithrio rhag derbyn unrhyw gynhyrchion marchnata sy'n ymwneud â hapchwarae gan yr elusen.

 

Person(au) â Chyfrifoldeb a Hyrwyddwr: James Stephens a Phae Jones.

Cyfeiriad Cofrestredig: Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, SA14 8LQ

Rhif Elusen Gofrestredig: 1083645

Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, ac am eich hawliau data, cliciwch yma.