Stori Craig

Craig Harrendence ydw i, ac oni bai am haelioni cefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru fel chi, ni fyddwn yma heddiw.

Ym mis Ebrill 2023, eisteddais ar gefn fy meic modur fel y byddwn yn arfer ei wneud, ond o fewn dau funud o ddechrau ar fy nhaith, collais reolaeth gan yrru'n syth i mewn i gylchfan.

Cafodd y ffordd ei chau ac roedd yr heddlu'n credu byddent yn delio ag achos o farwolaeth.

Pan fydd rhywun yn gofyn i mi, sut wnes ti oroesi? Gallaf ateb yn bendant iawn. Oherwydd ymyrraeth Ambiwlans Awyr Cymru ynghyd â'r uwch-driniaeth a dderbyniais ar ochr y ffordd.

Treuliais bythefnos mewn adran gofal dwys yn ogystal ag ychydig fisoedd ychwanegol yn yr ysbyty.

Mae'r anafiadau a gefais wedi newid fy mywyd am byth.

Cefais sawl toriad agored, torrais yr asgwrn ar waelod fy asgwrn cefn yn deilchion, a thorrais dwll yn fy ysgyfaint, ymhlith sawl anaf arall. Bu'n anodd addasu i'r ffordd newydd hon o fyw.

Er gwaethaf hyn oll, llwyddais i ddychwelyd i'm gwaith o fewn 6 mis wedi'r ddamwain - ar ôl cael gwybod efallai na fyddwn yn gallu cerdded eto.

Diolch o waelod fy nghalon am gefnogi'r elusen hon sy'n achub bywydau. Os na fydden nhw wedi bod yno, rwy'n sicr na fyddwn i yma heddiw.

Mae gan Raffl Haf Ambiwlans Awyr Cymru'r pŵer i newid bywydau, ac er fy mod yn gobeithio na fydd byth ei angen arnoch chi, wyddoch chi byth beth fydd yn digwydd nesaf. Rwyf wedi bod yn feiciwr modur am 35 o flynyddoedd, a doeddwn i erioed wedi dychmygu hyn yn digwydd.

Er mwyn cael cyfle i ennill £3,000,  cwblhewch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'ch taliad a bonion eich tocynnau yn yr amlen postio am ddim sydd wedi'i chynnwys.

Mae angen y cyfleuster hwn ar bawb, lle bynnag y maent, beth bynnag maent yn ei wneud, oherwydd bydd bywydau'n cael eu colli hebddo.

Pob lwc

Craig Harrendence

Goroeswr Ambiwlans Awyr Cymru