Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Mae'n bleser i Ambiwlans Awyr Cymru ei bod wedi agor hwb manwerthu a chymunedol newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ddydd Mercher 3 Ebrill, daeth pawb yn y dref at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i'r siop newydd, sydd wedi'i lleoli ar 21 Stryd y Farchnad.Mae'r siop newydd, sy'n rhan o lasbrint manwerthu'r Elusen, yn dilyn adborth gan gyflogeion yr elusen, cefnogwyr, a gwirfoddolwyr a gasglwyd yn ystod adolygiad strategol yr Elusen.   

Mae'r safle mawr yn hwyluso'r gallu i ollwng rhoddion, darparu warws i brosesu rhoddion, cyfleusterau storio, gofod mawr i lawr y siop a mynediad i gerbydau sy'n caniatáu iddi wasanaethu siopau eraill Ambiwlans Awyr Cymru yn y rhanbarth. Mae ystafell hyfforddi hefyd wedi'i lleoli o fewn yr adeilad.

Mae'r siop newydd yn dilyn llwyddiant yr hybiau cymunedol newydd yng Nghaernarfon a'r Wyddgrug.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Roedd yn bleser gennym agor ein hwb cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dilyn llwyddiant y rhai yng Nghaernarfon a'r Wyddgrug. Mae'r lleoliad mawr yn ein galluogi i stocio hyd yn oed mwy o eitemau a chreu amgylchedd siopa newydd a braf i'n cefnogwyr.   

“Yn bwysicaf oll, bydd y rhoddion a'r gwerthiannau o'r siop yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.” 

Yn ystod yr agoriad, daeth Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr draw yn arbennig i ymweld â'r staff a'r gwirfoddolwyr.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r Maer ddewis cefnogi'r Elusen Cymru gyfan. Ar ddechrau ei dymor, dewisodd y Cynghorydd William Kendall Ambiwlans Awyr Cymru fel ei Elusen y Flwyddyn, felly roedd yn awyddus i gefnogi agoriad swyddogol y siop newydd.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Bydd yr arian a godir yn y siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel ymateb i'r holl eitemau ail-law a gafodd eu rhoi a'u gwerthu, yn cael effaith a fydd yn achub bywydau.

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae wedi bod yn ddiwrnod teimladwy iawn i ni i gyd, ac mae clywed adborth cadarnhaol gan ein cwsmeriaid yn wir wedi bod yn hyfryd.

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i Ambiwlans Awyr Cymru ac i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt. Bydd yr adeilad mwy o faint yn ein galluogi i dderbyn a gwerthu eitemau rhodd mwy, megis dodrefn, a bydd yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ledled Cymru.”

Nod cynllun manwerthu newydd Ambiwlans Awyr Cymru yw sicrhau cydbwysedd rhwng creu incwm ar gyfer ei gwasanaeth sy'n achub bywydau, gan gynyddu presenoldeb yr Elusen yn y gymuned ledled y wlad ar yr un pryd.  

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae sawl ffordd y gallwch gefnogi menter newydd yr elusen, o ddod i ymweld â'r siop, hyd at roi eich eitemau ail-law neu drwy wirfoddoli eich amser i helpu yn y siop. Am ragor o wybodaeth ewch, i www.walesairambulance.com.