Mae dyluniad Melody yn dathlu cynwysoldeb Cymru, a'r ffaith bod y genedl Geltaidd yn noddfa i bawb. O amgylch gwaelod y castell, mae pobl yn sbrintio ac yn neidio mewn llawenydd, gan ddathlu eu gwlad â baneri, cennin pedr a chennin. Caiff amrywiaeth ei dangos drwy hil ac anableddau amrywiol y bobl. Fel emblem gryf i Gymru, mae'r ddraig goch yn uno'r dyluniad gyda'i gilydd ac yn lle tân, dewisodd Melody enfys cydraddoldeb.

 

Noddwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach mawr gyda thros 4,500 o ddysgwyr llawn amser ac 8,000 o ddysgwyr rhan amser, gan gynnwys 3,000 o brentisiaid. Mae'r coleg yn gweithredu o saith lleoliad ledled Abertawe. Mae llwyddiant ac enw da'r Coleg hyd yma yn gysylltiedig i raddau helaeth ag ansawdd uchel yr addysgu a'r dysgu.

 

Crëwyd gan Melody Angel

Mae Melody yn fyfyrwraig yng Ngholeg Llwyn y Bryn, Uplands, sy'n rhan o Goleg Gŵyr Abertawe. Ei nod yw astudio celf gysyniadol a darlunio yn y brifysgol, gan ddatblygu ei chariad tuag at gelf ymhellach. Yn ogystal â'i dawn arlunio arbennig, mae Melody yn gerddor talentog sy'n ysgrifennu ei chaneuon ei hun, yn canu, yn chwarae'r soddgrwth a'r gitâr glasurol.