Dychmygwch fan lle y gallwch eistedd yn dawel a darllen eich llyfr neu wrando ar aderyn yn canu. Man lle mae'r môr yn llawn hud a môr-forynion, a lle mae octopws hapus yn gwneud yn siŵr bod Mr Jiráff yn cael ei gacen pen-blwydd arbennig. Dychmygwch hapusrwydd a chyffro Mr Eliffant wrth iddo chwythu enfys allan o'i drwnc! Dychmygwch nad yw'r ddraig goch hardd yn anadlu tân, ond ei bod yn lle hynny yn anadlu sêr allan i awyr y nos, sêr a gaiff eu sgleinio bob dydd yn ddi-ffael gan goblynnod yn y cymylau (sydd hefyd yn gwneud yn siŵr bod Mr Lleuad yn cael ei gwpanaid o de llaethog bob nos). Dychmygwch wybren yn llawn heulwen, balwnau aer poeth, llyfrau yn hedfan, a dolydd yn llawn blodau direidus yn gwenu. Dyma eich man hapus!

 

Noddwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin (WBAS) yn wasanaeth mabwysiadu cyfeillgar sy'n gysylltiedig â'r awdurdod lleol sy'n gwasanaethu ardaloedd Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol disgybledig sy'n meddu ar sgiliau amrywiol, therapyddion, gweithwyr cymorth, gweithwyr plant a seicolegydd.

Mae WBAS yn benderfynol o sicrhau'r dyfodol gorau i blant sy'n aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd acyn cynnig cymorth nid yn unig i fabwysiadwyr wrth iddynt fynd drwy'r broses ac yn ystod y cyfnod wedi hynny, ond hefyd i blant a phobl ifanc sy'n cael eu mabwysiadu a phobl y mae'r broses fabwysiadu wedi effeithio arnynt.

Crëwyd gan Marnie Maurri

Mae Marnie wrth ei bodd yn cymysgu'r byd dynol a byd anifeiliaid â'i gilydd er mwyn creu un lle rhyfedd a hardd. Mae ei gwaith cywrain yn canolbwyntio ar yr agweddau mwy rhyfedd a hudolus ar y byd lle gall fod gan flodau wynebau, lle gall llwynogod reidio beic a lle gall eliffantod chwythu enfysau o'u trwnc. Ar ôl graddio o Slade School of Fine Art, mae Marnie bellach yn gweithio o'i stiwdio yn ei chartref yn Swydd Gaerwrangon, yn gweithio ar gomisiynau ac yn creu darnau ar gyfer ei siop ar-lein.