Hwyliog, llachar a bywiog. Dyluniwyd y castell hwn i ysgogi atgofion o adeg lle nad oedd calorïau o bwys, a phan oedd popeth yn blasu'n hyfryd. Mae'r dyluniad 'Doughnut Tower-tastic' yn creu ymdeimlad o lawenydd a boddhad, a dylai roi gwên ar wyneb pawb.

 

Crëwyd gan Keely Clarke

Artist seramig wedi'i lleoli yn Llandeilo yw Keely, ac mae'n dangos ei gwaith mewn orielau ledled Sir Benfro. Mae ei gwaith yn aml yn llawn hiwmor, yn unigryw ac yn fywiog ac wedi'i ysbrydoli'n sylweddol gan arfordir Cymru. Gan ddefnyddio lliwiau llachar, graffeg bywiog ac ymdeimlad o unigoliaeth, mae ei gwaith yn aml yn adlewyrchu bywyd teulu ifanc yng nghefn gwlad Cymru.

 

Noddwyd gan Ascona Group

Mae Ascona Group yn un o'r gweithredwyr blaengwrt sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae'n rheoli rhwydwaith o 62 o safleoedd ledled y DU ar hyn o bryd. Mae'n anelu at ddarparu profiadau manwerthu ochr ffordd o'r radd flaenaf, sy'n cynnig partneriaethau â brandiau blaenllaw a'u brandiau mewnol ei hun, fel Ascona Fish Bar ac Ascona Jet Wash. Mae'r grŵp yn ymrwymedig i dwf sylweddol, gan anelu at fod yn berchen ar 300 o safleoedd a'u gweithredu o fewn y tair blynedd nesaf. Yn ogystal, mae Ascona yn canolbwyntio ar gymunedau, gan anelu at gael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol drwy Sefydliad Ascona, sy'n cefnogi amrywiaeth eang o fentrau a sefydliadau.