Mae dyluniad Barry yn llwyddo i gyfuno ysbryd bywiog Abertawe ag egni amrwd graffiti. Mae'r cerflun llawn creadigrwydd yn dangos arddull graffiti apelgar gan ddefnyddio palet lliw coch, du a gwyn trawiadol. Mae'n cyfleu hanfod Abertawe yn fedrus, gan grynhoi ei threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. O eiriau bythol Dylan Thomas i ysbryd anorchfygol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, a hyd yn oed atgofion hunllefus y cyrch awyr a ddinistriodd y ddinas, mae'r dyluniad hwn yn plethu naratifau amrywiol y ddinas, gan wahodd gwylwyr i ymgolli'n llwyr wrth fynd ar daith drwy amser ac emosiwn. Mae'r castell hwn yn awdl arbennig i orffennol, presennol a dyfodol Abertawe.

 

Crëwyd gan Barry John

Bu Barry John MBE yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain am dros 23 o flynyddoedd a chyflwynwyd MBE iddo fel rhan o Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2010. Yn ogystal â gwasanaethu ei wlad, mae Barry yn arlunydd profiadol (arlunydd haniaethol yn bennaf). Drwy ei waith, mae Barry yn mynegi straeon, atgofion, ysbrydion, gwirioneddau caled a chreulon ambell waith, a harddwch, lliwiau a gwydnwch byd gwrthdrawiadol.

Ei brofiadau wrth wasanaethu yw'r sail ar gyfer y rhan fwyaf o'i waith.

 

Noddwyd gan Swansea BID

Mae Swansea BID yn fenter gyffrous a ddatblygwyd gan y gymuned fusnes yng nghanol dinas Abertawe. Ers ei sefydlu yn 2006 ac yn dilyn pleidleisiau llwyddiannus yn 2011, 2016, a 2021, mae'r fenter wedi dangos uchelgais ar y cyd i wella canol y ddinas. Mae Swansea BID yn ymrwymedig i roi syniadau, mentrau a buddsoddiadau allweddol ar waith sy'n helpu i wella ardal y BID gan greu ardal well i siopa ynddi, i ymweld â hi, i astudio ynddi, i aros ynddi ac i gynnal busnes.