Wedi'i ysbrydoli gan ddyluniad Nordig mae'r dyluniad ffres hwn sy'n adlewyrchu'r gwanwyn yn gain ond hefyd yn gadarn. Mae'r adar cariad yn eistedd ar ffurf gymesur yn y galon, â'u pigau yn cyffwrdd. Mae'r dyluniad hwn yn cyfleu cariad, cysylltiad a harmoni.

Crëwyd gan Diana Brook

Mae Diana yn addysgu celf ac yn Brif Gymedrolwr Cynorthwyol ar gyfer celf a dylunio i CBAC, sef Bwrdd Cymru. Dros y blynyddoedd, mae Diana wedi sefydlu ei harddull ac wedi dod yn argraffwr cynhyrchiol. Mae ei dyluniadau i'w gweld ar gardiau, cwpanau a bagiau cario ymhlith eitemau eraill, ac mae'r eitemau hyn yn cael eu gwerthu mewn siopau annibynnol ledled Cymru.

Mae Diana yn arlunydd uchel ei pharch, ond mae hefyd yn addysgu ei chrefft ac yn cynnal gweithdai i'r rhai hynny sy'n awyddus i ddatblygu ei sgiliau.

 

Noddwyd gan BDP Wales

Mae BDP Wales wedi darparu gwasanaethau dylunio ac argraffu graffeg o ansawdd yn Abertawe a'r cyffiniau ers 1953. Yn ystod y cyfnod hwnnw o 70 mlynedd, mae'r cwmni argraffu wedi datblygu enw da am wasanaeth argraffu a dylunio cyflym am bris cystadleuol. Mae gan y tîm cyfeillgar brofiad helaeth yn y diwydiant argraffu ac maent yn darparu popeth o gardiau busnes a phapur pennawd i daflenni, taflenni gwybodaeth, baneri a mwy.