Roedd Gwaith Copr Hafod-Morfa yn rhan annatod o'r Chwyldro Diwydiannol. Er bod y safle bellach yn segur i raddau helaeth, dyma oedd safle gwaith copr mwyaf y byd ar un adeg. Mae'r dyluniad hwn yn talu teyrnged i Waith Copr Hafod-Morfa fel ag yr oedd flynyddoedd yn ôl pan oedd y diwydiant yn ffynnu.

Crëwyd gan Louise Jones

Cyn iddi sefydlu ei busnes celf ei hun yn gwerthu paentiadau a phrintiau o'i chelf tirlun, roedd Louise yn gweithio fel Podiatrydd yn y GIG. Mae Louise eisoes yn gyfarwydd â phaentio cerfluniau mawr, gan ei bod wedi cymryd rhan mewn prosiectau eraill gan Wild in Art. Mae hi'n byw gyda'i phartner a milgi bach drwg a bywiog iawn o'r enw Rudy.

 

Noddwyd gan Owens Group

Mae Owens Group yn un o brif Gwmnïau Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu teuluol y DU. Sefydlwyd y cwmni yn 1972 gan Huw Owen MBE, a dathlodd ei hanner canmlwyddiant fel busnes yn ddiweddar. Mae bellach yn cyflogi dros 1,000 o staff ac mae ganddo safleoedd ledled y DU a fflyd yn cynnwys 200 o faniau, 450 o dryciau a 850 o ôl-gerbydau. Mae ganddo hefyd 10 o safleoedd trafnidiaeth a 25 o warysau ag arwynebedd o 2.5m troedfedd sgwâr.