25 Mai 2023

Mae'n bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru lansio ei Raffl Haf gyda chefnogaeth y diddanwr Cymreig, Max Boyce. 

Mae'r canwr a'r comedïwr o Lyn-nedd wedi bod yn un o gefnogwyr yr Elusen ers ei sefydlu ar ôl iddo wylio ŵyr ei ffrind yn cael ei hedfan i'r ysbyty yn dilyn gêm rygbi ar faes Clwb Rygbi Glyn-nedd. Hon oedd galwad cyntaf Ambiwlans Awyr Cymru, 22 mlynedd yn ôl. 

Felly, roedd cael Max Boyce i lansio Raffl yr Haf ym Mharc Abernant, Glyn-nedd yn gwbl addas ac mae hefyd yn annog pobl i gefnogi. 

Bydd tocynnau raffl yn dechrau cael eu gwerthu ddydd Iau 25 Mai a bydd posibl eu prynu am gyfnod o naw wythnos, tan ddydd Gwener 28 Gorffennaf. Cynhelir digwyddiad tynnu'r raffl ddydd Mawrth 8 Awst, a bydd un enillydd ffodus yn ennill £3,000, yn ogystal â £500 fel ail wobr a £300 yn drydedd wobr. 

Dywedodd Max y gallai pobl helpu i achub bywydau a chael cyfle i ennill gwobr arian parod drwy gefnogi Raffl yr Haf. 

Dywedodd: “Mae'n bleser cael helpu i hyrwyddo Raffl yr Haf gan fod Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen sy'n agos iawn at fy nghalon. Rwyf wedi cefnogi'r Elusen yn y gorffennol a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol hefyd. 

“Rwyf wedi gweld y gwaith da y mae'r Elusen wedi'i wneud dros y blynyddoedd, ac rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r peilotiaid a'r ymarferwyr gofal critigol. Mae'n achos anhygoel a all helpu pawb. Mae'r gwasanaeth yn achubiaeth i lawer o bobl a dyna pam y dylai pawb ei gefnogi. Dydych chi byth yn gwybod pryd na lle y bydd ei angen arnoch chi.”  

“Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi'r raffl haf hon am fod yr achos yn un teilwng iawn ac mae gwobrau gwych ar gael i'w hennill. Mae'n bosibl y byddwch yn helpu i achub bywyd rhywun.” 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i weithredu ei gwasanaeth achub bywydau ac mae'n dibynnu ar roddion hael gan ei chefnogwyr ffyddlon. 

Ers sefydlu'r Elusen ar 1 Mawrth, 2001, mae wedi ymateb i fwy na 45,000 o alwadau ac yn darparu gwasanaeth brys 24 awr y dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. 

Dywedodd Christine Lloyd, un o gleifion y gorffennol, ei bod yn ddyledus i Ambiwlans Awyr Cymru wedi i'r car yr oedd yn teithio ynddo gael ei daro gan dractor a'i gadael i frwydro am ei bywyd. 

Dywedodd: “Mae'r sicrwydd a'r gobaith a deimlais yn clywed Ambiwlans Awyr Cymru yn cyrraedd y lleoliad yn dal i ddod â chysur i mi hyd heddiw. Cefais sawl anaf, gan gynnwys toriad agored yn fy mraich dde, tair asen wedi'u torri a thorri fy nghefn mewn sawl lle. Ar ben hyn, cefais waedlif ar yr ymennydd a gwaedlif mewnol difrifol.  

“Gwnaeth y gofal a gefais gan Ambiwlans Awyr Cymru ar ochr y ffordd nid yn unig achub fy mywyd ond hefyd rhoi'r cyfle gorau posibl i mi. Heb yr ymateb cyflym, yr ymrwymiad a'r cyfarpar arbenigol, fyddwn i ddim yma heddiw.” 

Gwnaeth Ambiwlans Awyr Cymru hefyd achub bywyd Richard Jones, a oedd yn teithio yn ei drỳc pan gafodd ddamwain ffordd a achosodd anafiadau difrifol a bu'n rhaid torri ei goes. 

Gwnaeth y gofal critigol a chynnar a dderbyniodd y dyn 34 oed gan griw Ambiwlans Awyr Cymru achub ei fywyd, yn ddi-os. Mewn tro o ffawd, cyfarfu Richard â'i bartner Michaela yn yr ysbyty, a bellach mae gan y ddau fab, y maent  wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf yn ddiweddar. 

Dywedodd Richard:  “Mae tîm cyfan Ambiwlans Awyr Cymru wedi fy ysbrydoli'n fawr ac wedi rhoi cymaint i mi. Rwy'n rhoi yn ôl yn fy ffordd fy hun ac yn rhoi cymorth cymheiriaid i eraill sydd wedi colli coes.” 

“Nid oeddwn erioed wedi meddwl rhyw lawer am y gwasanaeth o'r blaen ac ni feddyliais byth y byddai angen ei help arna i. Cefais fy syfrdanu ar ôl cael gwybod bod yr Elusen ond yn cael ei hariannu gan roddion y cyhoedd, er ei bod yn gwneud gwaith anhygoel.” 

Ychwanegodd Christine: “Mae gan Raffl yr Haf y pŵer i newid bywydau hyd yn oed mwy o bobl. Gallai cymryd rhan gadw teulu arall gyda'i gilydd, yn union fel fy nheulu innau.” 

Mae sawl ffordd y gallwch gefnogi Raffl yr Haf. £1 yw pris y tocynnau a gellir eu prynu ar-lein drwy wefan yr elusen (walesairambulance.com/summerraffle). Gallwch hefyd brynu tocynnau o siopau elusen Ambiwlans Awyr Cymru, gan staff a gwirfoddolwyr neu mewn digwyddiadau codi arian amrywiol. 

I gael rhagor o wybodaeth neu i chwarae, ewch i: www.walesairambulance.com/summerraffle