28/02/2020

Mae Steve Williams o Abertawe, sy’n Ymatebwr Cyntaf Cymunedol ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn mynd i Nepal at fynydd uchaf y byd ar 25 Ebrill fel rhan o grwp o 12. 

Nod y tîm yw cwblhau’r her mewn 14 diwrnod, gan gerdded o Lukla wrth droed Everest i un o’r ddau Wersyll Cyntaf enwog, ac yn ôl. 

Wrth sôn am yr her o’i flaen, dywedodd Steve: “Rydw i wedi rhedeg a beicio llawer, a gwneud Her y Tri Chopa hyd yn oed, ond dyma’r prawf mwyaf i mi hyd yma.   

“Mae gen i brofiad o sefyllfaoedd argyfwng ac rwy’n gwybod pa mor hanfodol bwysig yw amser wrth achub bywydau.  

“Dyna pam wnes i ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel fy elusen. Rwy’n gobeithio casglu mwy na £2,000 at yr achos.”

Bydd y daith gerdded dywysedig yn cynnwys diwrnodau ymgynefino er mwyn ymdrin â salwch pen mynydd, ond mae gan Steve ysbrydoliaeth ychwanegol i’w helpu i gyflawni’r her. 

Esboniodd: “Mae fy ffrind a chyn gydweithiwr, David Hawkshaw, yn ymuno gyda mi i wneud yr her, sy’n hwb mawr o ran cymhelliant. 

“Rydw i’n gwneud hyn er cof am fy nhad hefyd, fu farw ym mis Gorffennaf 2018 yn dilyn brwydr gyda chlefyd Alzheimer.”

Os yw technoleg yn caniatáu mae Steve yn gobeithio cadw blog dyddiol yn ystod ei antur. 

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae’r daith gerdded ei hun yn her bersonol anhygoel i Steve ac mae’n haeddu parch a chefnogaeth. Mae’r ffaith ei fod yn codi arian i ni yn y broses yn ein gwneud yn wylaidd iawn, ac ni fedrwn ddiolch digon iddo.  

“Gwnaethom lansio ymgyrch codi arian i hyrwyddo ein nod o ddod yn wasanaeth 24/7 yn ddiweddar, a chefnogaeth fel hyn sy’n sicrhau y byddwn ni ar gael i bobl Cymru, yn ystod y dydd a’r nos.  

“Mae staff meddygol Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o weithio ochr yn ochr gyda’n cydweithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gyda’n gilydd ein nod yw darparu’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.”  

Ambiwlans Awyr Cymru yw’r gwasanaeth ambiwlans mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae arno angen £8m y flwyddyn i gadw ei bedwar hofrennydd achub bywyd yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi hedfan i drin cleifion mwy na 34,000 o weithiau ers ei sefydlu yn 2001. 

Os hoffech noddi Steve ewch i www.justgiving.com/Steve-Williams87 lle cewch roi cyfraniad a darllen mwy am ei ymdrechion.