Cyhoeddwyd: Dydd Llun 20 Mawrth 2023

Ydy'ch hwyliau yn gwella nawr bod y dyddiau'n ymestyn a'r tymheredd yn dechrau codi?  

Os felly, mae gan Ambiwlans Awyr Cymru yr her berffaith i ddechrau eich taith ffitrwydd a chymhelliant y gwanwyn hwn, yn ogystal â rhoi esgus i chi dreulio mwy o amser yn mwynhau'r awyr agored yng Nghymru.  

Yn dilyn llwyddiant yr her dros y blynyddoedd blaenorol, mae'r Elusen yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn ei digwyddiad codi arian blynyddol, sef Cerdded Cymru.  

Gwahoddir cyfranogwyr o bob oedran a galluoedd i gerdded, loncian neu redeg 100km drwy gydol mis Mai gan godi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau ar yr un pryd.   

Digwyddiad rhithwir yw Cerdded Cymru, 100km ym mis Mai (62 o filltiroedd), sy'n golygu cwblhau ychydig mwy na 3km neu ddwy filltir bob dydd. Yr hyn sy'n wych am y digwyddiad yw y gallwch gerdded ar eich cyflymder eich hun, ar hyd y llwybr o'ch dewis a phenderfynu sut y byddwch yn rhannu'r pellter. 

P'un a fyddwch yn penderfynu cerdded o amgylch eich ardal leol, mwynhau aer y môr ar hyd yr arfordir, herio eich hun i ddringo mynyddoedd geirwon Cymru neu gerdded 100km ar beiriant rhedeg, gallwch gamu eich ffordd tuag at y terfyn mewn sawl ffordd. 

Gallwch gymryd rhan fel teulu neu gyda'ch ffrindiau neu fwynhau amser i chi eich hun neu yng nghwmni'r ci. Efallai y gallwch gymryd rhan yn yr ysgol, goleg neu yn y gwaith. Yn ogystal â rhoi hwb i'ch iechyd a'ch lles eich hun, gallwch grwydro o amgylch lleoedd newydd a helpu i achub bywydau ar yr un pryd.   

Bydd yr her yn digwydd yn ystod mis Mai ac ni fydd yn costio dim i gymryd rhan. Fodd bynnag, caiff cyfranogwyr eu hannog i godi arian. Bydd cerddwyr sy'n codi isafswm o £100 yn cael medal am eu hymdrechion. 

Gwisgodd tua 290 o bobl o bob oedran eu hesgidiau cerdded y llynedd i godi swm anhygoel o £33,313. 

Cododd Meleri Brown, sy'n fam i ddau, £1,375 drwy gymryd rhan yn her Cerdded Cymru y llynedd. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn agos at ei chalon wedi i'r gwasanaeth gael ei alw at ei chefnder 14 o flynyddoedd yn ôl wedi iddo ddisgyn drwy do adeilad. 

Dywedodd: “Heb Ambiwlans Awyr Cymru, byddai pethau wedi bod yn ddrwg ac ni fyddai'r stori wedi bod mor bositif heddiw. “Cymerais ran yn her Cerdded Cymru y llynedd, gan fwynhau yn fawr. Roedd yn heriol ar brydiau oherwydd y tywydd, y llwybr ac ati, ond roedd ei wneud ar gyfer achos da yn werth pob munud. 

“Os galla i ei wneud, gall unrhyw un ei wneud. Gallwch ei gwblhau ar eich cyflymder eich hun - nid cystadleuaeth yw hi. Byddwch wir yn teimlo'n wych ar ôl cwblhau'r her o wybod eich bod wedi helpu i achub bywyd!” 

Dim ond saith oed oedd Kara Richards, merch ysgol o Bontardawe, pan wnaeth gofrestru i gymryd rhan yn Cerdded Cymru y llynedd. Cododd £700 ac mae Kara yn annog pobl i gofrestru ar gyfer yr her.  

Dywedodd: “Roedd fy Mami yn cymryd rhan yn Cerdded Cymru y llynedd ac roeddwn i am ei wneud hefyd.  Roedd yn swnio'n beth hwyliog i'w wneud a chefais gyfle i fynd am dro sawl gwaith ac i wneud ymarfer corff. Roedd fy ffrindiau i gyd yn fy nghefnogi. 

“Dylai pobl gofrestru ar gyfer yr her eleni gan fod Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig iawn a does neb yn gwybod pryd y bydd angen y gwasanaeth hwn arnyn nhw.Mae codi arian ar gyfer yr Elusen yn beth anhygoel i'w wneud. Mae cyrraedd eich targed yn deimlad anhygoel! Byddaf yn sicr yn cymryd rhan eto eleni.”  

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae digwyddiad llwyddiannus Cerdded Cymru wedi codi swm o bron i £90,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.  

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Dywedodd Tracey Ann Breese, y Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei fodd o roi cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan eto yn nigwyddiad Cerdded Cymru. Mae'r digwyddiad codi arian wedi bod yn hynod lwyddiannus dros y tair blynedd ddiwethaf ac wedi codi swm o bron i £90,000.  

“Rydym yn gofyn yn garedig i'n cefnogwyr wisgo eu hesgidiau cerdded neu redeg a chymryd rhan yn yr her eto eleni, i gerdded 100km drwy gydol mis Mai. Mae'n ddigwyddiad codi arian sy'n berffaith i bawb, gan gynnwys teuluoedd, ac yn ffordd wych o roi hwb i'ch iechyd a'ch lles a chodi arian i'n Helusen sy'n achub bywydau ar yr un pryd. 

“Mae digwyddiadau codi arian, fel Cerdded Cymru, yn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.” 

Ydych chi'n barod am yr her, os felly, gwisgwch eich esgidiau cerdded a chofrestru trwy ein Grŵp Facebook Cerdded Cymru penodedig neu gallwch godi arian trwy ein tudalen Just Giving. 

Am ragor o wybodaeth am Cerdded Cymru, cliciwch yma.