Mae menyw ifanc o Lanrug wedi rhoi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'w chynlluniau i wirfoddoli mewn ysgol ym Mhatagonia gael eu canslo.

Cafodd Elain Williams, 18 oed, ac sy'n gyn-ddisgybl o  Ysgol Brynrefail, ei dewis gan yr Urdd i wirfoddoli mewn ysgol gynradd ym Mhatagonia ym mis Hydref 2020. Yn anffodus, cafodd ei thaith ei chanslo oherwydd y pandemig a'i gyfyngiadau.

Er mwyn gwneud taith Elain yn llwyddiant, bu rhaid iddi godi arian, a oedd yn cynnwys pacio bagiau yn y siop Morrisons lleol, gwerthu dyddiad o ddyddiadur gyda rhodd ariannol i'r enillydd, cynnal bore coffi Dydd Gŵyl Dewi yn Ysgol Brynrefail a gwerthu lluniaeth a raffl yn un o Eisteddfodau lleol yr Urdd.

Roedd Elain wedi codi £1,250 cyn i'r cyfyngiadau ar godi arian a'i thaith gael eu canslo.

Wedyn, cafodd Elain ganiatâd i roi'r arian i elusen a dewisodd roi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Rhoddwyd gweddill yr arian i'r ysgol ac i elusennau lleol eraill.

Dywedodd Elain: “Roeddwn yn siomedig iawn fod y daith wedi gorfod cael ei chanslo oherwydd byddai wedi bod yn brofiad gwych. Roeddwn i'n ffodus iawn o gael fy newis o blith dros 100 o ymgeiswyr. Roedd yn mynd i fod yn drip unwaith mewn oes ac yn rhywbeth roeddwn wedi breuddwydio amdano ers blynyddoedd. Byddai wedi bod yn gyflawniad aruthrol i gael y cyfle i gyfathrebu a gweithio ochr yn ochr â'r diwylliant Cymreig yno.

"Dewisais Ambiwlans Awyr Cymru am fod angen rhoddion arno i allu cynnig y gwasanaeth.  Does neb yn gwybod pryd y bydd angen y gwasanaeth hwn arnynt, felly mae'n achos da.”

Mae Elain bellach yn cymryd blwyddyn i ffwrdd cyn ystyried mynd i'r brifysgol yn y dyfodol.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Cyflwynodd Elain y siec i feddygon Ambiwlans Awyr Cymru yng Ngorsaf Awyr yr Elusen yng Nghaernarfon yn ddiweddar.

“Gwnes i fwynhau'r ymweliad â'r orsaf awyr ac roedd y staff yn hyfryd iawn ac yn ddiolchgar am y rhodd. Roedden nhw'n barod i ateb unrhyw gwestiynau.”

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Rwyf wedi adnabod Elain a'i theulu ers blynyddoedd ac wedi ei gweld o bell, yn tyfu i fyny'n ddynes ifanc aeddfed a synhwyrol iawn. Mae hwn yn benderfyniad hyfryd ganddi i ailgyfeirio'r rhan fwyaf o'r arian a godwyd ganddi'n wreiddiol ar gyfer ei thaith i Batagonia i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Diolch o waelod calon i ti Elain a phob dymuniad da pan fyddi di'n penderfynu ar dy ddyfodol academaidd/astudiaethau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.