Mae pobl ifanc o ysgol gynradd ym Methesda wedi codi dros £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gerdded y pellter rhwng Castell Dinas Bran a Chastell Caergwrle yn rhithwir.

Cymerodd disgyblion o Ysgol Pen-y-Bryn ran yn her Cerdded Cymru, sef digwyddiad codi arian blynyddol yr elusen, fel rhan o'u thema ar iechyd a llesiant a gwaith y gwasanaethau brys.

Rhoddodd Cerdded Cymru gyfle i gerddwyr osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod o fis o gysur eu cartrefi. Mae pob targed cyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll enwog Cymru  a gellid cyflawni hyn gartref , yn yr ardd neu wrth wneud ymarfer corff, wrth fynd â'r ci am dro - a hyd yn oed mynd i fyny ac i lawr y grisiau!  

Cerddodd disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 16 milltir, sef y pellter rhithwir rhwng Castell Dinas Bran a Chastell Caergwrle.

Gwnaethant gyflawni 36,000 o gamau drwy gerdded o amgylch iard a pherimedr yr ysgol.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Fel rhan o thema'r ysgol ar waith y gwasanaethau brys, gwahoddwyd Alwyn Jones, cydlynydd codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, i'r ysgol i siarad â'r plant.

Mwynhaodd Alwyn dair sesiwn ‘ardderchog’ gyda'r grwpiau blwyddyn gwahanol, a gymerodd ran ac a oedd â diddordeb mawr yn yr elusen sy'n achub bywydau.

Dechreuodd y sgwrs gyda hanes Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu ar hyn o bryd, gydag Alwyn yn sôn wrth y plant am y pedwar hofrennydd a'r tîm gofal critigol sy'n darparu gofal brys ledled Cymru.

Esboniodd Alwyn ei rôl o fewn yr elusen hefyd a sut mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei ariannu a'r hyn sydd angen ei wneud i gyrraedd yr £8 miliwn bob blwyddyn i redeg y gwasanaeth.

Dywedodd Alwyn, yn llawn balchder: “Roedd yn bleser o'r mwyaf cael fy ngwahodd i siarad am yr elusen yn Ysgol Pen-y-Bryn Bethesda, a oedd wedi cyd-daro â'i phenderfyniad i godi arian i ni drwy ei her Cerdded Cymru.

“Ychydig cyn diwedd y tymor, cefais fy ngwahodd i dderbyn y swm rhagorol o £2,057 roedd yr ysgol wedi'i godi drwy nawdd. Mae'n wych! Diolch yn fawr am y croeso cynnes a'r caredigrwydd a ddangoswyd i mi ac i'r disgyblion a gododd swm mor wych o arian rhyngddynt. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.