Mae Clwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn ar Daf wedi rhoi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl codi arian drwy rafflau a chynnal troeon car.

Nid oedd modd i'r grŵp o selogion, sy'n cwrdd ddydd Iau olaf bob mis yng Nghlwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf, drefnu eu digwyddiadau codi arian arferol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ond aethant ati i godi arian drwy godi tâl ar aelodau o £1 y tocyn ar gyfer rafflau a £2 y cerbyd ar gyfer eu troeon car.

Mae'r clwb yn cynnal 'gorymdeithiau' rheolaidd i aelodau yn ystod misoedd cynhesaf a goleuaf y flwyddyn, sy'n cynnwys ceir, tryciau a beiciau modur clasurol yn mwynhau tro yn y cefn gwlad. Wedyn bydd yr aelodau'n cwrdd am ginio dydd Sul, te prynhawn neu bicnic.

Mae Clwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn ar Daf wedi codi arian i nifer o wahanol elusennau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Ganolfan Plant yn Sir Gaerfyrddin a'r Gymdeithas Strôc. Cododd y clwb £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru am y tro cyntaf yn ystod 2008/10, a dewisodd yr aelodau i gefnogi'r elusen eto yn 2018.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Xoe Meadows, ysgrifennydd ac ysgrifennydd aelodaeth Clwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn ar Daf: “Gwnaethon ni ddechrau codi arian dwy flynedd yn ôl ond bu'n rhaid i ni roi'r gorau i hynny yn ystod y pandemig, a dim ond yn ddiweddar rydym wedi dechrau eto. Yn amlwg ni fydden wedi gallu codi'r un geiniog y llynedd o dan yr amgylchiadau, ond gwnaethon ni benderfynu y byddwn ni'n parhau i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i ni ailgydio yn ein gweithgareddau. Mae'r cyhoedd yn gefnogol iawn pan ddaw i Ambiwlans Awyr Cymru, er mod i ddim yn credu bod ganddyn nhw unrhyw syniad faint o arian sydd ei angen i redeg y gwasanaeth hwn.

“Mae'r gwasanaeth 24/7 yn bwysig iawn, am fod angen help ar bobl bob awr o'r dydd, ac nid rhwng 9am a 5pm yn unig. Gall damweiniau ddigwydd ar unrhyw awr o'r nos neu'r dydd, felly mae'r gwasanaeth 24/7 yn hollbwysig.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Aeth John Hardwicke, un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru ers amser maith, i ddigwyddiad cymdeithasol a gynhaliwyd ganddynt yn ddiweddar i gasglu'r siec ar ran yr elusen.

Rhoddodd John anerchiad llawn gwybodaeth i'r aelodau ar y gwaith sy'n achub bywydau a wneir gan yr elusen i bobl Cymru.

Ychwanegodd Xoe: “Roedd Mr Hardwicke yn wybodus iawn. Roedd yr araith a roddodd i ni yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol. Mae'n ŵr bonheddig yng ngwir ystyr y gair. Diolch yn fawr iawn.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin :  “Diolch yn fawr iawn i bawb yng Nghlwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn ar Daf am godi £1,000. Rydym wrth ein bodd bod y clwb wedi parhau i gefnogi'r elusen. Dros y blynyddoedd mae Clwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn ar Daf wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy godi arian i'n helusen sy'n achub bywydau, sydd wedi ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fo ein hangen arnynt fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. 

Am ragor o wybodaeth am Glwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn ar Daf, ewch i www.whitlandclassicmotorclub.co.uk