Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ffynnu ar ôl cael ei dewis fel elusen y flwyddyn Clwb Busnes Bae Abertawe ar gyfer 2023.

Bydd yr Elusen, sy'n darparu gwasanaeth awyr hanfodol bob awr o'r dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd ledled Cymru, yn elwa ar yr holl arian a fydd yn cael ei godi gan y grŵp rhwydweithio fel Elusen Ddewisol y Llywydd eleni.

Bydd casgliadau codi arian yn digwydd ym mhob un o ddigwyddiadau dathlu Clwb Busnes Bae Abertawe, sy'n dod â channoedd o bobl fusnes flaenllaw o dde a gorllewin Cymru ynghyd.

Bydd y grŵp rhwydweithio hefyd yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy annog ei aelodau i ymgysylltu â'r elusen a'i chenhadaeth, a chodi ei phroffil drwy ddigwyddiadau misol, rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol a chyfleoedd hyrwyddo eraill.

Bydd yr Elusen hefyd yn cael cyfle i siarad â rai o bobl fusnes flaenllaw yr ardal yn ystod digwyddiad lansio Clwb Busnes Bae Abertawe fis Chwefror yn Stadiwm Swansea.com.

Dywedodd Michael Morgan, Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, ei fod wrth ei fodd yn cefnogi'r elusen sy'n achub bywydau.

Dywedodd Michael: “Rydym yn falch o gefnogi'r elusen arbennig hon fel Elusen Ddewisol ein Llywydd ar gyfer 2023 a helpu i godi arian ar gyfer ei gwaith sy'n achub bywydau.

“Ni ellir gorbwysleisio rôl hanfodol Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wrth achub bywydau miloedd o bobl ledled Cymru bob blwyddyn. Mae'r elusen wedi ymateb i fwy na 43,000 o alwadau hyd yma ac wrth law 24 awr y dydd er mwyn sicrhau ei bod yno i bobl Cymru pan fydd ei hangen arnynt fwyaf.

“Mae'n gwbl ddibynnol ar roddion elusennol er mwyn sicrhau y gall barhau i ddarparu ei gwasanaethau arbenigol ledled Cymru bob blwyddyn. Felly, byddem yn annog ein haelodau i roi'n hael er mwyn ein helpu i gyfrannu at barhad yr elusen amhrisiadwy hon.”

Dywedodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei bod yn bleser cael ei dewis fel Elusen Ddewisol Llywydd y grŵp rhwydweithio blaenllaw ar gyfer 2023.

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Hoffem ddiolch i Glwb Busnes Bae Abertawe am ein dewis fel ei elusen ar gyfer y flwyddyn hon.

“Rydym yn edrych ymlaen at ei gefnogi ar ei daith codi arian, ac rydym yn gyffrous i weithio gydag ef a'i aelodau i godi arian hanfodol ar gyfer ein Helusen.

“Bydd ei gefnogaeth hael yn galluogi Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i achub bywydau ledled Cymru, ac i ddarparu ein gwasanaethau arbenigol 24 awr y dydd."

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng Sector Cyhoeddus a Thrydydd sector unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).  

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae Clwb Busnes Bae Abertawe yn anelu at gefnogi a thyfu'r gymuned fusnes ledled de a gorllewin Cymru. Mae'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio busnes blaenllaw ar gyfer busnesau ar draws pob sector, gyda'r nod o hyrwyddo twf a chydweithrediad.

Mae ei ddigwyddiadau yn cynnwys siaradwyr gwadd proffil uchel ar draws pob diwydiant, gyda siaradwyr ar gyfer 2023 yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Principality Julie-Ann-Haines, a'r awdur a'r Prif Swyddog Gweithredol Jeremy Dale.

I gael rhagor o wybodaeth am Glwb Busnes Bae Abertawe ewch i: https://www.swanseabaybusinessclub.com/

I gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ewch i: https://www.ambiwlansawyrcymru.com/