Ydych chi wedi colli rhywfaint o'ch brwdfrydedd ac awydd herio eich hun? Os ydych, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn i bobl Cymru gerdded 100km ym mis Mai ar gyfer ei elusen achub bywydau.

Mae 100km ym mis Mai yn rhan o her Cerdded Cymru flynyddol yr Elusen sy'n gadael i'r cyfranogwyr gerdded pellteroedd amrywiol bob blwyddyn, gan godi arian ar yr un pryd.

Cerdded Cymru 2022 – mae 100km ym mis Mai yn agored i bobl o bob oedran a'r hyn sy'n dda am yr her rithwir yw ei bod yn rhoi'r cyfle i 'gerddwyr' naill ai fynd allan i archwilio Cymru neu gwneud eu stepiau yn y cartref, wrth arddio, mynd â'r ci am dro neu gerdded i fyny ac i lawr y grisiau hyd yn oed!

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae digwyddiad llwyddiannus Cerdded Cymru wedi codi swm anhygoel o £56,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Tua 60 milltir o gerdded mewn mis yw'r 100km ym mis Mai.

Bydd yr her yn digwydd yn ystod mis Mai ac nid yw'n costio dim i gymryd rhan. Fodd bynnag, anogir cyfranogwyr i godi arian. Bydd y cerddwyr sy'n codi £50 yn cael crys-t 'Cerdded Cymru’ a bydd y cyfranogwyr sy'n codi £150 neu fwy hefyd yn cael medal am eu hymdrechion.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl o bob oedran wedi dangos eu cefnogaeth i'r elusen sy'n achub bywydau drwy godi arian.

Dangosodd  pâr priod o Abertyleri, Lawrence Morris sy'n 52 oed  a Julie Morris sy'n 57 oed ei bod yn bosibl cwblhau her Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru yn rhithwir unrhyw le!  Gwnaethant godi £779 drwy ‘gerdded Cymru’ o Gyprus.   

Gwnaeth y cwpl gerdded mwy na 163  o filltiroedd i'r elusen, tra roeddent yn aros yn eu hail gartref yn  Pernera, de-ddwyrain Cyprus.   

Dywedodd Lawrence: “Byddem yn annog pobl eraill i gefnogi'r elusen wych hon lle bynnag y bo'n bosibl fel y gall barhau i ddarparu'r gwasanaeth sy'n achub bywydau i'n cymunedau ledled Cymru 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.  Er ein bod wedi gwneud cyfraniad bach i godi arian, y dynion a'r menywod sy'n darparu'r gwasanaeth ddylai gael y clod.”   

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Elin Wyn Murphy, y Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei fodd o roi cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan eto yn nigwyddiad Cerdded Cymru. Mae'r digwyddiad wedi bod yn hynod llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi codi swm anhygoel o £56,000. Mae Cerdded Cymru wedi denu pobl o bob oedran a oedd am fod yn heini a chodi arian i'n Helusen ar yr un pryd. Eleni, rydym yn gofyn i'n ‘cerddwyr’ Gerdded 100km ym mis Mai.

“Hoffem i'n cefnogwyr wisgo eu hesgidiau cerdded unwaith eto a chymryd rhan yn her eleni, yn enwedig ym mlwyddyn ein pen-blwydd yn 21 oed. Cerdded Cymru 2022 yw'r digwyddiad codi arian perffaith i bawb, gan gynnwys teuluoedd ac nid oes rhaid i chi hyd yn oed fod yng Nghymru i gymryd rhan!

“Bydd digwyddiadau codi arian fel Cerdded Cymru yn helpu ein meddygon i barhau i fod yno i bobl Cymru 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”

Ydych chi'n barod am yr her, os felly, ewch i wisgo eich esgidiau a chofrestru trwy ein Grŵp Facebook Cerdded Cymru ymroddedig www.facebook.com/groups/499914708514299 neu gallwch godi arian trwy ein tudalen Just Giving

I gael rhagor o wybodaeth am Cerdded Cymru 2022 ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com/cerdded-cymru-2022