18/08/2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ailagor ei siop elusen yng Nghanol Abertawe. 

Bydd y siop ar Stryd y Coleg, y bu'n rhaid iddi gau ei drysau ym mis Mawrth yn sgil pandemig y Coronafeirws, yn agor ddydd Mercher 12 Awst rhwng 11am a 4pm.

I gadw'r cyhoedd yn ddiogel yn y siop, mae'r Elusen wedi newid yr oriau agor. Mae hyn yn galluogi'r staff i lanhau'r siop yn drylwyr cyn ac ar ôl iddynt ei hagor bob dydd.

Bydd y siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11am a 4pm.

Fis diwethaf, gwnaeth yr elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau ailagor drysau ei siop yng Nghwmdu, Abertawe ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Bydd y siop yn monitro nifer y bobl sydd yn y siop ar yr un pryd, ac yn dilyn canllawiau llym. Bydd gofyn i gwsmeriaid gadw pellter cymdeithasol bob amser yn ogystal â dilyn system un ffordd. Mae'r Elusen hefyd yn gofyn i gwsmeriaid beidio â chyffwrdd ag unrhyw beth oni bai eu bod yn bwriadu prynu'r eitem honno.

Pan fyddant yn barod i dalu, bydd gofyn i gwsmeriaid sefyll yn y blwch penodedig a defnyddio dull digyffwrdd neu gerdyn lle y bo'n bosibl. Mae gorsafoedd diheintio dwylo hefyd ar gael i bobl sicrhau bod eu dwylo yn lân.

Dywedodd Pennaeth Manwerthu'r Elusen, Andrew Lawton: “Rydym yn falch o allu ailagor ein hail siop elusen yn Abertawe. Mae incwm Ambiwlans Awyr Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn sgil cau siopau elusen a chanslo digwyddiadau.

“Mae ein siop yng Nghwmdu yn gwneud yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y bydd ein siop yng Nghanol Abertawe yr un mor llwyddiannus. Rydym yn gobeithio gallu agor y siopau sy'n weddill ledled Cymru yn raddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

“Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni a hoffem roi sicrwydd i'n cefnogwyr ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod y siop yn ddiogel. Er mwyn gallu parhau i gadw'r siop ar agor, rydym yn gofyn i gwsmeriaid ddilyn y canllawiau llym. Nod hyn yw sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â'n staff a'n gwirfoddolwyr, yn ddiogel.

“Hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid sydd wedi rhoi eitemau i'n siop yng Nghwmdu neu sydd wedi ymweld â hi am eu hamynedd, dealltwriaeth a chymorth wrth ddilyn canllawiau'r llywodraeth. Gobeithio y bydd hyn yn parhau gyda'n cwsmeriaid yng Nghanol Abertawe. Hebddoch chi, ni fyddai ein gwasanaeth achub bywydau yn bodoli.”

Mae'r Elusen hefyd wedi gwneud rhai newidiadau i'r eitemau y gall eu derbyn yn ogystal â'i gwasanaeth dosbarthu. Mae'r gwahaniaethau hynny fel a ganlyn:

Eitemau Rhodd  – Yn anffodus, dim ond nifer cyfyngedig o eitemau y gall y siop yng Nghanol Abertawe eu derbyn ar hyn o bryd. Y rheswm dros hyn yw am fod lle yn brin yn y siop ac am fod angen cadw eitemau ar wahân am gyfnod i osgoi'r posibilrwydd o groeshalogi.

Gwasanaeth Dosbarthu – Yn anffodus, dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gall yr Elusen ei ddarparu ar hyn o bryd. Caiff eitemau eu gadael ar garreg y drws, yn hytrach na'u cario i mewn i gartrefi. Byddai'n well casglu eich eitemau o'r siop lle y bo'n bosibl.