Pam mae angen gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 arnom? Expand Bu'n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd y gwasanaeth newydd yn sicrhau bod gofal cyn mynd i'r ysbyty ar gael ledled Cymru, 24 awr y dydd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dadansoddi'r ‘anghenion nas diwallwyd’ am ein gwasanaethau, sef yr achosion lle nad oeddem yn gallu ymateb iddynt am eu bod wedi digwydd y tu allan i oriau gweithredol yn ystod y dydd. Canfu'r dadansoddiad hwn y canlynol: Mae angen gwasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos. Roedd tua 990 o achosion o ‘anghenion nas diwallwyd’ rhwng 8am ac 8pm dros gyfnod o 12 mis. Mae cynnydd penodol yn y galw rhwng 3pm a hanner nos. Yn Ne-ddwyrain Cymru y mae'r cynnydd hwn fwyaf cyffredin. Roedd digwyddiadau sy'n peryglu bywyd neu'n peryglu aelodau'r corff rhwng 8pm ac 8am yn cael eu rheoli gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Yn yr achosion hyn, nid oedd Ambiwlans Awyr Cymru ar gael i helpu drwy gynnig ei driniaethau safon Adran Achosion Brys.
A yw hedfan a glanio hofrennydd yn ystod y nos yn ddiogel? Expand Ydy. Mae rhagor o fesurau diogelwch cadarn a gweithdrefnau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ar gyfer hedfan yn ystod y nos, o gymharu â hedfan yn ystod y dydd. Mae gan yr hofrennydd y dechnoleg radar tywydd ddiweddaraf yn ogystal â systemau osgoi traffig a thir. Mae systemau goleuo datblygedig ganddo hefyd. Mae ein criw wedi cael hyfforddiant manwl ar hedfan yn ystod y nos, a byddant yn defnyddio sbectol gweld yn y nos.
Pam mai dim ond un hofrennydd fydd ar gael yn ystod nos? Expand Ystod y dydd mae gennym dri hofrennydd brys sy'n gweithredu ledled Cymru. Er gwaethaf y galw am ein gwasanaeth dros nos, mae'n llawer llai na'r galw yn ystod y dydd. I ddechrau, byddwn yn darparu'r gwasanaeth nos gydag un criw yn gweithio o hofrennydd neu gerbyd ymateb cyflym. Rydym yn gwerthuso ein data'n barhaus, ac os bydd y galw am wasanaeth nos yn cynyddu, byddwn yn ystyried cyfleoedd ychwanegol i ehangu ein gwasanaeth.
Pam y bydd yr hofrennydd yn cael ei leoli yng Nghaerdydd? Expand Fel rhan o'n hymchwil, rydym wedi dadansoddi'r ‘anghenion nas diwallwyd’ am ein gwasanaethau, sef yr achosion lle nad oeddem yn gallu ymateb iddynt am eu bod yn digwydd y tu allan i oriau gweithredol. Canfu'r dadansoddiad hwn fod angen am wasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos, a bod y rhan fwyaf o achosion yn digwydd yn Ne-ddwyrain Cymru. Mewn ymateb i'r canfyddiadau, ein safle presennol yn Hofrenfa Caerdydd yw'r lleoliad mwyaf addas ar gyfer hofrennydd nos. Mae'n caniatáu i ni ymateb i'r gyfran fwyaf o achosion, ond gyda'r capasiti i gwmpasu Cymru gyfan. Yn ogystal, pan fydd y tywydd yn wael, gallwn fanteisio ar ddulliau glanio sy'n defnyddio teclynnau, gan ddefnyddio'r dechnoleg ym Maes Awyr Caerdydd. Mae Hofrenfa Caerdydd ymhell o ardaloedd preswyl, sy'n lleihau'r aflonyddu a achosir gan sŵn hofrennydd yn ystod y nos.