Ambiwlans Awyr 24/7 i Gymru

O 1 Rhagfyr ymlaen bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau darparu hofrennydd a fydd yn gweithredu yn ystod y nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn y golygu bod gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 bellach ar waith yng Nghymru.

Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn gynnal gwasanaeth 24/7.

Mae ein gweledigaeth wedi dod yn realiti.



Cyhoeddwyd: Dydd Llun 30 Tachwedd 2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi gwireddu ei uchelgais o ddod yn wasanaeth 24/7 diolch i roddion gan bobl Cymru.  

Bydd yr Elusen, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2021, yn dechrau darparu hofrennydd nos o ddydd Mawrth 1 Rhagfyr ymlaen.  

Mae'n costio tua £6.5 miliwn bob blwyddyn i redeg yr hofrenyddion yn ystod y dydd. Er mwyn darparu hofrennydd nos, mae'n rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £1.5 miliwn yn ychwanegol, sy'n golygu y bydd angen cyfanswm o £8 miliwn er mwyn gweithredu gwasanaeth 24/7. 

Er mai pobl Cymru sy'n cefnogi'r gwaith o redeg yr hofrenyddion drwy roddion elusennol i Ambiwlans Awyr Cymru, darperir y galluogrwydd meddygol ar yr hofrenyddion drwy bartneriaeth Trydydd Sector-Sector Cyhoeddus unigryw rhwng yr Elusen, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Mae'r bartneriaeth hon, sydd wedi bod yn weithredol ers 2015, wedi arwain at greu'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru), neu 'Meddygon Hedfan Cymru' fel y'i gelwir yn gyffredin, sy'n darparu gofal meddygol critigol a brys arloesol i gleifion cyn mynd i'r ysbyty, ledled Cymru. Babcock Mission Critical Services Onshore sy'n rhedeg agweddau heddfanaeth y gwasanaeth ar ran Ambiwlans Awyr Cymru.  

Mae'r Gwasanaeth, sydd, yn y bôn, yn mynd â'r ystafell frys at y claf, yn cynnwys uwch-feddygon GIG Cymru ac ymarferwyr gofal critigol a all roi triniaethau brys critigol nad ydynt ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty fel arfer. Mae'r rhain yn cynnwys triniaethau llawfeddygol, trallwysiadau gwaed ac anesthesia brys. 

Nodwyd yr angen am wasanaeth nos gan Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn ymchwil fanwl a gynhaliwyd i argyfyngau sy'n peryglu bywyd neu aelodau'r corff sy'n digwydd y tu allan i oriau gweithredu arferol y gwasanaeth, sef rhwng 8am a 8pm. Dros gyfnod o 12 mis, roedd tua 990 o achosion o ‘anghenion nas diwallwyd’, ac yn Ne Ddwyrain Cymru roedd y galw fwyaf cyffredin.  

Wrth i'r cynlluniau ar gyfer cyflwyno'r hofrennydd nos gael eu cwblhau, mae meddyg ymgynghorol ac ymarferydd gofal critigol wedi bod yn gweithredu ar y ffordd rhwng 7pm a 7am bob nos o Hofrenfa yr Elusen yng Nghaerdydd, a hynny ers Gorffennaf 2020. O 1 Rhagfyr ymlaen, bydd criw dau beilot yn ymuno â nhw, gan eu galluogi i deithio ledled Cymru gyfan.  

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwyf wrth fy modd bod Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyflawni ei uchelgais i fod yn wasanaeth 24/7. Bydd cyflwyno'r hofrennydd dros nos yn darparu gwasanaeth awyr brys i fwy o bobl sydd ag angen clinigol am driniaeth ar unwaith ledled Cymru.  

"Mae wedi bod yn bleser gweld yr elusen yn mynd o nerth i nerth ers ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001.  Mae gwaith yr elusen a'i staff a'i gwirfoddolwyr gweithgar wedi helpu Cymru i arwain y ffordd o ran arfer gorau, rhagoriaeth glinigol ac arloesedd ac wedi cyfrannu at yr elusen yn dod yn ymgyrch ambiwlans awyr fwyaf yn y DU." 

Dywedodd David Gilbert OBE, Cadeirydd AAC: “Ar ddechrau'r flwyddyn, gwnaethom ddweud mai ein nod oedd cyflwyno hofrennydd nos erbyn diwedd 2020. Rydym ni, ar y cyd â'n partneriaid yn y GIG a'n partneriaid ym maes heddfanaeth, wedi treulio blynyddoedd lawer yn cynllunio ac yn paratoi. Er gwaethaf heriau'r pandemig, roeddem o'r farn ei bod yn bwysicach nag erioed i ddarparu gwasanaeth sy'n achub bywydau 24/7 i bobl Cymru.  

“Yn 2021, bydd yr Elusen yn dathlu 20 mlynedd o wasanaeth, a pha ffordd well o ddathlu er mwyn nodi'r garreg filltir honno na chyflwyno gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7. Mae dau ddegawd o waith y tu ôl i hyn, ac ni fyddem yn y sefyllfa hon heb bobl Cymru a'u haelioni anhygoel, yn ogystal â'n staff a'n gwirfoddolwyr.  

“Mae'n gyfnod anodd dros ben i bawb, ond rydym wrth ein bodd â'r cymorth a roddwyd i ni. Rydym yn deall efallai na fydd yn bosibl i rai pobl barhau i'n cefnogi ar hyn o bryd, ond i'r rhai sydd yn gallu parhau, gallwn sicrhau, gyda'n gilydd, ein bod yn cynnal gwasanaeth 24/7 ac yn achub bywydau.” 

Dywedodd yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS:  “Mae'r gofal o ansawdd adran frys rydym yn ei roi ar ochr y ffordd yn gwella'r tebygrwydd y bydd cleifion yn goroesi ac yn adfer yn yr hirdymor o drawma a salwch critigol. Ein nod o'r cychwyn cyntaf oedd sicrhau bod yr uwch-ofal critigol hwn a roddir cyn mynd i'r ysbyty ar gael yn gyfartal i gleifion ledled Cymru, waeth ble y maent neu ar ba adeg o'r dydd y bydd y galw. Mae ein hymchwil wedi dangos bod angen gwasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos, ac rydym eisoes wedi gweld y galw hwn ers cyflwyno ein gwasanaeth dros nos ar y ffordd ym mis Gorffennaf eleni.  

“Mae'r cam hwn o'r broses cyflwyno gwasanaeth 24/7, sef dechrau defnyddio hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru, yn gam mawr ymlaen i'n gwasanaeth, ac i ofal cyn mynd i'r ysbyty yng Nghymru. Bu'n bosibl, diolch i'r cydweithio a'r bartneriaeth barhaus rhwng y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal â phobl Cymru sy'n cefnogi'r Elusen.” 

I gael rhagor o wybodaeth, ac i ddysgu am ffyrdd o gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com