Ambiwlans Awyr 24/7 i GymruO 1 Rhagfyr ymlaen bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau darparu hofrennydd a fydd yn gweithredu yn ystod y nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn y golygu bod gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 bellach ar waith yng Nghymru. Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt. Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn gynnal gwasanaeth 24/7. Mae ein gweledigaeth wedi dod yn realiti. Hafan Ein gwasanaeth 24 awr Gwybodaeth am Ambiwlans Awyr Cymru Ambiwlans Awyr 24/7 i Gymru Adran Achosion Brys sy’n Hedfan Pam mae angen Gwasanaeth 24/7 Ambiwlans Awyr arnom? Gwasanaeth 24/7 Newydd Ambiwlans Awyr Cymru Cyfrannwch Cwestiynau Cyffredin Gwasanaeth 24/7 Newydd Ambiwlans Awyr Cymru Wrth ystyried canfyddiadau ein dadansoddiad, bydd ein gwasanaeth yn esblygu fel a ganlyn: Gwasanaeth yn Ystod y Dydd Gwasanaeth Caernarfon – 8am i 8pm. Gwasanaeth Y Trallwng – 8am i 8pm. Gwasanaeth Llanelli – 7am i 7pm. Gwasanaeth Caerdydd (Trosglwyddo Cleifion) – 7am i 7pm. ‘Gwasanaeth yn Ystod y Nos’ Bydd meddyg ymgynghorol, ymarferydd gofal critigol a chriw dau beilot yn gweithredu o Hofrenfa Caerdydd rhwng 7pm a 7am, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu teithio i argyfyngau ledled Cymru. Manage Cookie Preferences