Ambiwlans Awyr 24/7 i Gymru

O 1 Rhagfyr ymlaen bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau darparu hofrennydd a fydd yn gweithredu yn ystod y nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn y golygu bod gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 bellach ar waith yng Nghymru.

Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn gynnal gwasanaeth 24/7.

Mae ein gweledigaeth wedi dod yn realiti.



Yn sgil cyflwyno meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol i’r gwasanaeth yn 2015, ynghyd â chyfarpar safon Adran Achosion Brys, rydym ni erbyn hyn ymhlith yr ymgyrchoedd ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn feddygol yn Ewrop.

Gwnaed y datblygiad meddygol hwn yn bosibl diolch i bartneriaeth unigryw y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru. O fewn GIG Cymru caiff rhan feddygol yr ymgyrch ei galw’n Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru), neu ‘Meddygon Hedfan Cymru’. Mae EMRTS Cymru’n canolbwyntio ar weithlu meddygol a system lywodraethu feddygol y gwasanaeth.

Mae gan y gwasanaeth nifer o ymarferwyr trosglwyddo hofrenyddion, sef meddygon sy’n gweithio ar yr hofrennydd trosglwyddo yng Nghaerdydd.

Mae GIG Cymru, drwy EMRTS Cymru, yn cyflenwi’r meddygon ac mae’r Elusen yn gweithio’n ddiflino er mwyn codi’r arian sydd ei angen bob blwyddyn er mwyn cadw’r hofrenyddion yn yr awyr.

Ein Nodau

  • darparu mynediad cyfartal i ofal critigol (gofal brys y tu allan i’r ysbyty).
  • gwella’r siawns y bydd claf yn goroesi ac yn gwella yn y hirdymor drwy gynnig triniaeth o safon adran achosion brys yn lleoliad y digwyddiad.
  • cludo cleifion yn uniongyrchol i’r cyfleuster gofal iechyd sydd fwyaf addas i’w hanghenion, gan arbed amser o gymharu â theithio ar y ffordd.
  • darparu buddion eilaidd i rannau eraill o’r GIG yng Nghymru (yn benodol, lleddfu’r pwysau ar wasanaethau’r rheng flaen).