Ydy. Mae rhagor o fesurau diogelwch cadarn a gweithdrefnau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ar gyfer hedfan yn ystod y nos, o gymharu â hedfan yn ystod y dydd. Mae gan yr hofrennydd y dechnoleg radar tywydd ddiweddaraf yn ogystal â systemau osgoi traffig a thir. Mae systemau goleuo datblygedig ganddo hefyd. Mae ein criw wedi cael hyfforddiant manwl ar hedfan yn ystod y nos, a byddant yn defnyddio sbectol gweld yn y nos.