Fel rhan o'n hymchwil, rydym wedi dadansoddi'r ‘anghenion nas diwallwyd’ am ein gwasanaethau, sef yr achosion lle nad oeddem yn gallu ymateb iddynt am eu bod yn digwydd y tu allan i oriau gweithredol.

Canfu'r dadansoddiad hwn fod angen am wasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos, a bod y rhan fwyaf o achosion yn digwydd yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mewn ymateb i'r canfyddiadau, ein safle presennol yn Hofrenfa Caerdydd yw'r lleoliad mwyaf addas ar gyfer hofrennydd nos. Mae'n caniatáu i ni ymateb i'r gyfran fwyaf o achosion, ond gyda'r capasiti i gwmpasu Cymru gyfan.  

Yn ogystal, pan fydd y tywydd yn wael, gallwn fanteisio ar ddulliau glanio sy'n defnyddio teclynnau, gan ddefnyddio'r dechnoleg ym Maes Awyr Caerdydd. 

Mae Hofrenfa Caerdydd ymhell o ardaloedd preswyl, sy'n lleihau'r aflonyddu a achosir gan sŵn hofrennydd yn ystod y nos.