17/09/2020

Er bod Ironman Cymru wedi cael ei ohirio eleni, nid yw hynny wedi atal tri dyn o Sir Benfro rhag cwblhau eu ‘Trionman’ eu hunain.

Penderfynodd y tîm, sef Francis Bunker, Phil Smith a Jeff Davies, osod eu her eu hunain.

Dros gyfnod o bedair wythnos, nofiodd Francis 9.6 milltir, sy'n cyfateb i 2.4 milltir yr wythnos, rhedodd Phil bellter anhygoel o 104.8 o filltiroedd (26.2 milltir yr wythnos), a seiclodd Jeff 448 o filltiroedd (112 yr wythnos).

Syniad Jeff oedd y Trionman ac, ym marn y tîm, ef a gafodd yr her anoddaf.

Dywedodd Jeff, sy'n hyfforddwr personol: “Dwi wedi cwblhau sawl gweithgaredd codi arian dros y blynyddoedd, a daeth yr her hon i fod ar ôl i mi glywed am yr holl apeliadau i bobl godi arian dros elusennau cenedlaethol. Er bod pob un o'r elusennau hyn yn rhai gwerth chweil, gan ein bod yn byw ym mhen pellaf y gorllewin, roeddwn i'n teimlo bod angen i ni gefnogi elusen fwy lleol sy'n achub bywydau yn ein sir. Dwi wedi gweld hyn drosof fi fy hun sawl gwaith. Yr unig beth roedd angen i mi ei wneud wedyn oedd perswadio dau berson arall i ymuno â mi.’’

Cwblhaodd y tri ohonynt yr her ar 5 Medi, gan ragori ar eu targed o £500 a chodi cyfanswm rhagorol o £1,545.

Ychwanegodd Jeff, a ddywedodd mai rhan anoddaf yr her oedd dod o hyd i'r amser i gyflawni'r pellteroedd bob wythnos: “Mae'r tri ohonon ni'n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd arian, yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, ac mae'n cadarnhau'r parch mawr sydd gan bobl yn y sir at Ambiwlans Awyr Cymru.”

Hoffai'r dynion ddiolch i'r Jolly Sailor am gael defnyddio'r safle i orffen y digwyddiad, i bawb a roddodd arian, ac i Charlotte Hawkes, merch Jeff, am reoli a chymell y grŵp i ddyfalbarhau gyda'i hiwmor a'i choegni ac am roi cyhoeddusrwydd parhaus i'r her.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Jeff, Francis a Phil. Mae Ironman yn her fawr i unrhyw un, ac mae'r ffaith bod y dynion hyn wedi penderfynu cwblhau eu Trionman eu hunain dros bedair wythnos yn dangos pwysigrwydd yr elusen iddynt. Diolch i bob un ohonoch. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymdrechion yn fawr, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydych yn sicr yn haeddu ymlacio!’’

Gallwch noddi'r dynion drwy fynd i’w tudalen Just Giving Trionman 4