Mae Wythnos Ambiwlans Awyr Cymru 2022 yn mynd yn ei blaen ledled y DU 5 – 11 Medi i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith sy'n achub bywydau a wneir gan elusennau ambiwlans awyr ledled y DU. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu gyda chymorth gan gyn-chwaraewr rygbi Cymru James Hook.

Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol, a drefnwyd gan Ambiwlans Awyr y DU, bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ymuno ag elusennau ambiwlans awyr eraill hefyd ar draws y Deyrnas Unedig yn ein hymgyrch 2022, Materion Tyngedfennol – Gwahaniaethau sy'n Achub Bywydau.

Mae'r ymgyrch yn nodi sut mae elusennau ambiwlans awyr fel Ambiwlans Awyr Cymru yn gwneud gwahaniaeth sy'n achub bywydau mewn adegau critigol. Gall unrhyw un, yn unrhyw le yng Nghymru fod yn glaf ar unrhyw bryd. Mae criwiau ambiwlans awyr yn dod â sgiliau a gwybodaeth arbenigol ysbytai at y digwyddiad argyfwng, a pherfformio triniaethau cymhleth gan ddefnyddio uwch gyfarpar a chyffuriau i wella cyfraddau byw.

Mae'r Elusen yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae staff hedfan meddygol Cymru yn mynychu dros 3,000 y flwyddyn erbyn hyn ledled y wlad gan ffurfio rhan bwysig yn y gwasanaethau brys ledled Cymru a gwneud gwahaniaeth o achub bywydau.

Caiff pob taith ei hariannu gan haelioni ein cymunedau lleol bron yn gyfan gwbl. Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022. Ers dechrau, mae'r Elusen wedi ymateb i fwy na 43,000 o alwadau. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Yn ogystal â bod yn gyfle i roi gwybod i bobl am ein gwaith sy'n achub bywydau, mae Wythnos yr Ambiwlans Awyr hefyd yn gyfle i ddweud diolch. Diolch i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth, i bob un o'n gwirfoddolwyr gwych ac i'n cefnogwyr hynod hael. Mae pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ein nod o achub bywydau. Yn syml iawn, ni fyddai ein Helusen yn bodoli hebddynt.”  

Dywedodd James Hook, llysgennad yr elusen: “Rwy'n falch o fod yn llysgennad Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n elusen sy'n agos iawn at fy nghalon gan ei bod wedi rhoi gofal brys i fy mab hynaf ychydig dros 11 mlynedd yn ôl pan aeth yn sâl iawn. Mae'n Elusen wych a dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi tan fod ei hangen arnoch.”  

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn galw ar bobl ar draws Cymru i gefnogi'r Elusen yn ystod Wythnos Ambiwlans Awyr 2022 i sicrhau y gall parhau i achub bywydau pobl fel Mark Kempsell, 30, pan gafodd ei fywyd ei achub llynedd yn dilyn damwain beic modur erchyll. Flwyddyn yn ddiweddarach, er iddo ddioddef poen yn ddyddiol, cododd Mark £5,000 i'r Elusen drwy ddringo'r Wyddfa fel diolch i feddygon yr Elusen a achubodd ei fywyd.

Ychwanegodd Mark: “Ond, oherwydd difrifoldeb fy anafiadau a'r lleoliad, roedd angen triniaeth frys arna i. Llwyddodd tîm meddygon Ambiwlans Awyr Cymru i ddod â'r ysbyty ata i.

“Cefais driniaeth a chefais fy nghludo i'r ysbyty cyn pen dim. Heb yr ambiwlans awyr, dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi goroesi neu o leiaf byddai’r risg o anaf pellach wedi cynyddu’n aruthrol.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.