Heddiw (dydd Llun 27 Ebrill) rydym yn dathlu pum mlynedd ers dechrau defnyddio meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol ar hofrenyddion Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (AAC), sy'n golygu ei fod yn un o'r gwasanaethau mwyaf datblygedig yn Ewrop.

Ar 27 Ebrill 2015, arweiniodd partneriaeth Trydydd Sector-Sector Cyhoeddus unigryw rhwng yr Elusen, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru at greu'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) dan arweiniad meddygon ymgynghorol, neu 'Meddygon Hedfan Cymru' fel y'i gelwir gan amlaf. Erbyn hyn mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithio ledled Cymru i ddarparu gofal critigol a gofal meddygol brys arloesol i gleifion cyn iddynt fynd i'r ysbyty, gan fynd â'r adran achosion brys i'r claf.

Daeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i fodolaeth yn 2001. Cyn cyflwyno gwasanaeth 'Meddygon Hedfan Cymru' yn 2015, roedd holl hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn cael eu staffio gan barafeddygon. Ar ôl dechrau defnyddio meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol, gallai'r gwasanaeth drallwyso gwaed, rhoi anestheteg, cynnig poenladdwyr cryf, a chynnal amrywiaeth o driniaethau meddygol – a hyn oll yn safle digwyddiad.

Gwnaeth y gwasanaeth hefyd gyflwyno Desg Cymorth Awyr sy'n cael ei staffio gan dîm dynodedig o ddyranwyr gofal critigol yn ogystal ag Ymarferwyr Gofal Critigol. Mae tîm y Ddesg Cymorth Awyr yn monitro pob galwad 999 ledled Cymru ac yn anfon y criwiau meddygol i ddigwyddiadau priodol.

O fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r gwasanaeth hefyd wedi creu rôl feddygol newydd, sef Ymarferydd Trosglwyddo Hofrennydd, i gefnogi gwaith ei wasanaeth dynodedig, Ambiwlans Awyr Cymru i Blant.

Cafodd y gwasanaeth 9,920 o alwadau rhwng 27 Ebrill 2015 a 21 Ebrill 2020. Anfonwyd hofrennydd i ymateb i 62% o'r galwadau a chafodd 38% ymateb gan un o Gerbydau Ymateb Cyflym y gwasanaeth. Roedd 47% o'r digwyddiadau yn ymwneud â phroblemau meddygol, gyda'r 53% sy'n weddill yn gysylltiedig â thrawma.

Mae gwaith dadansoddi pellach yn dangos mai dynion oedd 68% o'r cleifion a menywod oedd 32%, a bod 12% o'r holl gleifion a gafodd eu trin yn 17 oed neu'n iau.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae meddygon wedi rhoi anesthetig i gleifion mewn 885 o achosion, ac wedi rhoi trallwysiad cynnyrch gwaed mewn 273 o achosion.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r gwasanaeth wedi cael dwy wobr digwyddiad arbennig gan y Gymdeithas Ambiwlansys Awyr ar gyfer dwy alwad heriol iawn lle roedd goroeswyr annisgwyl.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhedeg pedwar hofrennydd bellach, sy'n costio £6.5m y flwyddyn. Lleolir y rhain yn y Trallwng, Caernarfon, Dafen (Llanelli) a Chaerdydd. Dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU erbyn hyn, ac mae'n rhedeg 12 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos.

Mae pwysigrwydd y gwasanaeth wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig COVID-19 presennol. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan o ymateb strategol a gweithredol Cymru i'r Coronafeirws.

Ar hyn o bryd, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i redeg ei wasanaeth meddygol sy'n achub bywydau fel arfer. Oherwydd tirwedd Cymru sy'n wledig yn bennaf, mae'n bwysig o hyd bod meddygon a, thrwy hynny, alluoedd yr adran frys, yn cael eu cludo mewn modd amserol i leoliad digwyddiad.

Dywedodd yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS Cymru: "Mae ein gwasanaeth wedi cyflawni cryn dipyn mewn dim ond pum mlynedd. Mae hyn yn dyst i'r tîm a sefydlodd y gwasanaeth ar sylfeini cadarn, a'n tîm o glinigwyr a rheolwyr ymroddedig."

Dywedodd Dave Gilbert, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Ambiwlans Awyr Cymru:  "Mae ein partneriaeth unigryw â GIG Cymru a haelioni anhygoel pobl Cymru yn sicrhau ein bod yn gallu darparu gofal o'r safon uchaf i'r sawl sydd ei angen. Y cam nesaf o ran ein datblygiad bydd symud o wasanaeth 12/7 i wasanaeth 24/7, rhywbeth rydym yn gobeithio ei wneud yn y dyfodol agos."

Mae Dr Dindi Gill ymysg y sawl a sefydlodd y gwasanaeth datblygedig hwn, ac ef oedd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol cyntaf, ar y cyd â Dr Rhys Thomas. Erbyn hyn mae Dr Gill yn Arweinydd Clinigol ar gyfer Rhwydwaith Trawma De Cymru, ond mae'n parhau i weithio fel meddyg ymgynghorol dros Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd: "Wrth edrych yn ôl i 2012, pan wnaethom ddechrau gweithio i sefydlu EMRTS Cymru, nid oeddwn wedi dychmygu y byddem ni'n creu gwasanaeth trosglwyddo a gofal critigol cyn mynd i'r ysbyty sydd mor amrywiol ar gyfer pobl Cymru. Roedd y blynyddoedd cynnar yn heriol, o ran dangos gwerth y gwasanaeth yn ogystal â'i fuddiannau arfaethedig i'r system gofal brys a'r system gofal iechyd ehangach. Pum mlynedd ers lansio'r gwasanaeth, mae wedi achub nifer dirifedi o fywydau a gwella ansawdd y gofal ar gyfer llawer o gleifion sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol. At hynny, mae wedi dechrau aeddfedu a sefydlu ei hun fel gwasanaeth hanfodol yng nghyd-destun GIG Cymru.

"Dylid llongyfarch y tîm a phawb a gymerodd ran yn y gwaith o'i ddatblygu am gyrraedd y garreg filltir hon. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n partneriaid, Ambiwlans Awyr Cymru a'r sawl sy'n codi arian ledled y wlad, heb y rhain ni fyddem lle rydyn ni heddiw. Rwy'n siŵr y bydd y gwasanaeth yn parhau i lwyddo dros y pum mlynedd nesaf, ac yn parhau i wella, gyda bwriad sy'n hyderus os yn ddiymhongar."

Mae'r Elusen yn codi arian mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus wyneb yn wyneb a chefnogaeth y cyhoedd yn ei siopau. Wrth gwrs, mae digwyddiadau wedi cael eu canslo, ac mae'r siopau wedi cau wrth i ni gyd chwarae ein rhan i ddiogelu'r gymdeithas rhag pandemig Coronafeirws.

Fodd bynnag, mae'n golygu y bydd yr Elusen yn gweld gostyngiad sylweddol o ran yr arian y gellir ei godi er mwyn cynnal ei wasanaeth sy'n achub bywydau.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. Am ragor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI  i 70711 i roi £5  . 

Sylwadau gan Gleifion Blaenorol

Cafodd Trevor Fletcher, sy'n dad i bedwar o blant, drawiad ar y galon, a chafodd ei ddadebru gan Dr John Glen, sy'n feddyg hedfan ac yn anesthetydd. Dywedodd: "Diolch i'r meddygon ar yr hofrennydd a holl staff yr ysbyty fy mod yn dal ar dir y byw. Diolch o waelod calon i bawb am achub fy mywyd."  

Roedd Christine Lloyd yn teithio mewn car a darodd dractor. Ymysg ei hanafiadau roedd toriad agored i'w braich dde a thair asen wedi'u torri, ac roedd hi hefyd wedi torri ei chefn mewn sawl lle. Roedd hi hefyd yn gwaedu'n ddifrifol yn fewnol, gan gynnwys yn yr ymennydd. Dywedodd: "Mae gennyf barch mawr tuag at feddygon Ambiwlans Awyr Cymru a'r holl wasanaethau brys ar y diwrnod hwnnw. Gwnaethant weithio mor galed i achub fy mywyd, gan fy nhrin â gofal a pharch. Ni allaf ddechrau egluro pa mor arwrol yr oeddent."  

Dim ond 16 mis oed oedd Cadi Owen pan gafodd ddamwain a oedd yn golygu bod angen llawdriniaeth frys arni i achub ei chroen. Dywedodd ei mam, Rachel:  "Rydym yn ddiolchgar dros ben am yr help y gwnaethant ei roi i'n merch fach, ac rydym yn teimlo'n gryf iawn dros godi arian ar eu cyfer.

"Mae Cadi wrth ei bodd â hofrenyddion, a bydd bob tro yn codi llaw arnynt ac yn dweud wrth ei ffrindiau ei bod wedi teithio yn yr hofrennydd a'i fod wedi mynd â hi i'r ysbyty."