Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Ein nod yw gwasanaethu Cymru gyfan, gan gynnwys cleifion ieuengaf Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn is-adran arbenigol o’n helusen, sy’n darparu gofal a chludiant arbenigol angenrheidiol i gleifion pediatreg a newydd-anedig. Mae ein pedwerydd hofrennydd yn golygu mai ni yw'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf ym Mhrydain, a ddefnyddir i ddarparu ystod eang o driniaethau ar gyfer cleifion pediatreg. Rydym yn cynorthwyo tua 400 o blant a babanod bob blwyddyn, naill ai fel rhan o gyrchoedd argyfwng 999 neu drwy ddefnyddio ein hofrennydd penodol i’w cludo. Hafan Beth Ydym yn gwneud Amdanom Cyrchoedd Cit a'r fwrdd CWRDD Â'R CRIW Sut I helpu Cymrd rhan Cyfrannwch Adnoddau Ar Gyfer Plant Loteri Loteri Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Canlyniadau Ymunwch Nawr Syniadau Codi Arian ar gyfer Plant Gallwch godi arian ar ein cyfer o unrhyw oed. Beth am adael i'ch plant gymryd rhan? Picnic gyda thedi – Beth am drefnu picnic gyda’ch hoff dedi a’ch ffrindiau? Helfa drysor – Mae yna thema ar gyfer pob tymor. Gwisg ffansi – Gwisgwch i fyny fel eich hoff gymeriad, beth am ein harth Biggles ein hun? Twrnamaint chwaraeon – Rownderi, pêl Droed, rygbi, pêl-rwyd, mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Celf a chrefft – Estynnwch y gliter. Taith Gerdded noddedig – Casglwch grŵp ynghyd a cherddwch o gwmpas y parc lleol. Distawrwydd noddedig – Ydych chi’n chwilio am rywfaint o amser tawel? Sêl cist car – Cyfle gwych i gael gwared ar hen bethau hefyd. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]