Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Ein nod yw gwasanaethu Cymru gyfan, gan gynnwys cleifion ieuengaf Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn is-adran arbenigol o’n helusen, sy’n darparu gofal a chludiant arbenigol angenrheidiol i gleifion pediatreg a newydd-anedig. Mae ein pedwerydd hofrennydd yn golygu mai ni yw'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf ym Mhrydain, a ddefnyddir i ddarparu ystod eang o driniaethau ar gyfer cleifion pediatreg. Rydym yn cynorthwyo tua 400 o blant a babanod bob blwyddyn, naill ai fel rhan o gyrchoedd argyfwng 999 neu drwy ddefnyddio ein hofrennydd penodol i’w cludo. Hafan Beth Ydym yn gwneud Amdanom Cyrchoedd Cit a'r fwrdd CWRDD Â'R CRIW Sut I helpu Cymrd rhan Cyfrannwch Adnoddau Ar Gyfer Plant Loteri Loteri Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Canlyniadau Ymunwch Nawr Syniadau Codi Arian ar gyfer Myfyrwyr Mae codi arian o gwmpas y campws yn ffordd bwerus o addysgu pobl am ein gwasanaeth. Mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer ceisiadau UCAS a cheisiadau am swyddi, ac yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd. Dyma rai syniadau: Marathon ffilmiau Arwerthiant Trefnu digwyddiad Crôl bwyd – cyrsiau gwahanol mewn tafarndai lleol gwahanol Digwyddiad chwaraeon Awyrblymio Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]